Disgwyl cyhoeddi adroddiad ar benderfyniadau gwleidyddol y pandemig Covid-19
Mae disgwyl i Ymchwiliad Covid-19 y DU gyhoeddi ei ail adroddiad brynhawn Iau.
Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar benderfyniadau gwleidyddol a gafodd eu gwneud yn ystod pandemig, gan gynnwys penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y pryd.
Bydd cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn cyflwyno ei hargymhellion mewn datganiad fideo ar YouTube.
Cafodd Ymchwiliad Covid-19 y DU ei sefydlu gan y cyn-Brif Weinidog, Boris Johnson, yn 2022 i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i'r pandemig.
Er bod yr ymchwiliad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, mae'n annibynnol ac yn cyhoeddi adroddiadau gydag argymhellion.
Gall yr argymhellion yma ddylanwadu ar bolisi'r llywodraeth ar sut i ddelio â phandemig arall yn y dyfodol.
Ond nid oes rhaid i'r llywodraeth dderbyn unrhyw argymhellion gan yr adroddiadau.
Beth ydyn ni'n ei wybod hyd yma?
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi ei rannu'n 10 rhan gwahanol.
Roedd y rhan gyntaf yn canolbwyntio ar "wydnwch a pharodrwydd", sef pa mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig.
Daeth adroddiad i'r casgliad y llynedd fod llywodraethau y DU, Cymru a'r gwledydd datganoledig eraill wedi "methu eu dinasyddion" yn ystod y pandemig.
Wrth gyflwyno ei hargymhellion, dywedodd y Farwnes Hallett bod angen "diwygio sylfaenol" yn y ffordd y mae’r DU yn paratoi ar gyfer pandemigau.
Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid wedi’i "rhwystro gan gymhlethdod gormodol" meddai'r adroddiad a ddisgrifiodd eu systemau fel "drysfa".
"Rhaid cael diwygio radical," meddai'r Farwnes Hallett. "Ni ellir byth eto ganiatáu i afiechyd arwain at gynifer o farwolaethau a chymaint o ddioddefaint."
Penderfyniadau gwleidyddol
Mae ail ran yr ymchwiliad yn craffu ar sut y gwnaeth gwleidyddion drin yr achosion yn y DU rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2022, pan godwyd cyfyngiadau.
Cafodd yr ail ran o'r ymchwiliad ei roi ar waith ar 31 Awst 2022 gyda gwrandawiadau yn cael eu cynnal rhwng 3 Hydref 2023 a 16 Mai 2024.
Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad yng Nghaerdydd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ym mis Mawrth 2024 bod y Cymry wedi cael eu trin fel "dinasyddion eilradd" gan Lywodraeth y DU adeg y pandemig.
Roedd hi'n cyfeirio ar y pryd at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo byr yn Hydref 2020, a phenderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod a chynorthwyo yn ariannol fel bod modd ei gadw mewn lle am gyfnod hwy.
"Roedd gennyn bryderon mawr am allu ariannol Llywodraeth Cymru ar y pryd i gynnal cyfnod clo mor hir ag oedd yn angenrheidiol," meddai ar y pryd.
"Roedd gwyddonwyr yn argymell i ni wneud hynny am dair wythnos.
"Dwi ddim yn meddwl fod gennym y grym economaidd ar y pryd i gynnal cyfnod clo byr am dair wythnos."
Fe aeth ymlaen i ddweud fod "arafwch Llywodraeth y DU wrth gynnig cymorth ariannol yn siomedig".
"Rwy'n credu fod hynny yn gyfnod anodd i ni fel cenedl, ohewrwydd 'dw i'n credu fod pobl yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd," meddai.
Fel yr adroddiad cyntaf, bydd yr ail adroddiad ddydd Iau yn darparu argymhellion ar sut y gallai llywodraethau'r dyfodol ymdrin â phandemigau.