Sgandal Postfeistri: Penodi aelod i'r bwrdd ar gyfer cynllun iawndal

Mae Swyddfa’r Post yn chwilio am aelod bwrdd newydd i oruchwylio cynllun iawndal ar gyfer cannoedd o gyn bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam am ddwyn, twyllo a chadw cyfrifon ffug.
Fe wnaeth nam yn system gyfrifiadurol y Swyddfa’r Post arwain at gannoedd o gyn bostfeistri i gael eu herlyn, gyda rhai yn cael eu carcharu, rhwng 2000 a 2014.
Roedd Noel Thomas, Damien Peter Owen, Lorraine Williams a Pamela Lock yn Gymry ymhlith y rhai gafodd eu cyhuddo ar gam.
Dywed Sky News fod y llywodraeth wedi awdurdodi penodiad cyfarwyddwr anweithredol i gadeirio’r pwyllgor a fydd yn goruchwylio’r Cynllun Diffygion Hanesyddol.
Cafodd y cynllun ei lansio'r llynedd er mwyn galluogi ceisiadau gan bostfeistri presennol a blaenorol sy’n credu eu bod wedi dioddef o ganlyniad i’r system Horizon.
Y gred yw bod y dyddiad cau wedi pasio erbyn hyn, ac mae disgwyl cyflawni’r penodiad yn eithaf buan.