Grŵp Cynefin yn gofyn i'w prif weithredwr i 'gamu yn ôl o'i swydd'

Mae'r gymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi gofyn i'w prif weithredwr i "gamu nôl o'i swydd" am y tro, yn dilyn adolygiad mewnol.
Cafodd Shan Lloyd Williams ei phenodi fel prif weithredwr y gymdeithas, sydd yn rheoli 4,600 o gartrefi ar draws gogledd Cymru a Phowys, yn 2018.
Mewn datganiad, dywedodd Grŵp Cynefin fod y bwrdd rheoli wedi gofyn i Ms Lloyd Williams a Chyfarwyddwr Adnoddau’r Grŵp, Bryn Ellis, i gamu yn ôl o'u swyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas: "Yn dilyn adolygiad mewnol, mae Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin wedi gofyn i Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Adnoddau’r Grŵp gamu yn ôl o'u swyddi am y tro.
"Mae Tîm Arweinyddiaeth Dros Dro yn ei le."
Llun: Grŵp Cynefin