Newyddion S4C

Roced Cosmic Girl

Virgin Orbit yn cymryd seibiant wedi methiant eu lansiad cyntaf

NS4C 16/03/2023

Mae cwmni gofod Virgin Orbit wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cymryd seibiant wedi methiant eu lansiad cyntaf.

Cafodd gweithwyr y cwmni wybod ddydd Mercher y byddan nhw’n cael eu rhoi ar ffyrlo.

Dywedodd y Prif Weithredwr Dan Hart y bydd y ffyrlo yn rhoi cyfle i’r cwmni sicrhau cynllun ar gyfer buddsoddiad newydd.

Daw yn sgil ymgais aflwyddiannus ym mis Ionawr i lansio nifer o loerennau o Faes Awyr Cernyw.

Roedd lloeren gan y cwmni SpaceForge o Gaerdydd ymysg y rheini a fethodd a chyrraedd y gofod.

Dywedodd Patrick McCall o SpaceForge fod y lansiad wedi bod yn “hynod gyffrous” ond nad oedd “wedi gweithio”.

Ychwanegodd bod yna “ddim siawns” y byddai'r cwmni yn dewis lansio o’r Deyrnas Unedig eto y tro nesaf.

“Hyd yn oed pe bai’r DU yn dod a dweud y gallwch chi ei wneud am ddim, fe fyddwn i’n dweud - peidiwch â gwneud hynny,” meddai wrth bwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ffilter

Ar y pryd, dywedodd Prif Weithredwr Virgin Orbit, Dan Hart, fod “methiant technegol” yn gyfrifol am y problemau.

“Yn y pen draw, mae’n ymddangos bod methiant technegol wedi ein hatal rhag cyrraedd yr orbit terfynol,” meddai.

Dywedodd yn ddiweddarach fod un ffilter, a oedd yn costio tua $100 yn unig, wedi dod yn rhydd ac wedi achosi’r problemau.

Llun: Y roced a fethodd a mynd a'r lloeren i'r gofod, gan PA.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.