Newyddion S4C

Streic trenau

Rhybudd i deithwyr wrth i weithwyr cwmnïau trenau streicio eto

NS4C 16/03/2023

Fe fydd 14 o gwmnïau trenau yn parhau i gynnal gweithredu diwydiannol ddydd Iau a dydd Sadwrn yr wythnos hon, ac fe allai hyn effeithio ar deithwyr yng Nghymru. 

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru na Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth yn rhan o'r gweithredu diwydiannol, mae Trafnidiaeth Cymru'n rhybuddio teithwyr i wirio eu teithiau cyn cychwyn ddydd Iau.

Fe fydd rhai newidiadau i amserlen Trafnidieth Cymru, gyda rhai gwasanaethau yn debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r ffaith y bydd cwtogi sylweddol iawn wedi bod ar amserlenni gweithredwyr eraill.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Bydd 14 cwmni trên arall yn parhau i gynnal gweithredu diwydiannol yn ôl y trefniant gwreiddiol.  Bydd hyn yn cynnwys staff gorsafoedd sy'n gyfrifol am rolau gweithredol allweddol megis anfon trenau.  

"O ganlyniad, allwn ni ddim darparu rhai gwasanaethau ar adegau penodol i orsafoedd a reolir gan y gweithredwyr a fydd yn cael eu heffeithio.”

Newidiadau i'r amserlen:

  • Ni fydd gwasanaethau rhwng Caer a Lerpwl yn rhedeg.
  • Ni fydd gwasanaethau yn galw yn Wilmslow.
  • Bydd gwasanaethau sy'n galw yn Stockport yn rhai gollwng i lawr yn unig tuag at Fanceinion ac yn wasanaeth codi yn unig i gyfeiriad Crewe.
  • Cyn 09:15 ac ar ôl 21:15 - bydd gwasanaethau rhwng De Cymru a Cheltenham yn dod i ben yn Lydney
  • Cyn 07:00 ac ar ôl 19:00 - bydd gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Manceinion yn dod i ben yng Nghaer.
  • Bydd gwasanaethau ar Reilffordd y Gororau yn dod i ben yn Amwythig.
  • Bydd gwasanaethau i Birmingham International yn dod i ben yn Birmingham New Street.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.