Newyddion S4C

Angen 'gweld, clywed a pharchu'r Gymraeg' medd Is-Lywydd Iaith cyntaf Undeb Myfyrwyr Caerdydd

15/03/2023

Angen 'gweld, clywed a pharchu'r Gymraeg' medd Is-Lywydd Iaith cyntaf Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Mae angen "sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld, ei chlywed a'i pharchu" yn ôl Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. 

Cafodd Deio Owen, sydd o Bwllheli yn wreiddiol, ei ethol yr wythnos hon. 

Mae Deio yn ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth, ac mae ar hyn o bryd yn Swyddog y Gymraeg yn y brifysgol. 

Wedi i fyfyrwyr ymgyrchu am sawl blwyddyn, penderfynodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Rhagfyr 2021 y byddai is-lywydd y Gymraeg llawn amser yn ymuno â'r tîm swyddogion yn 2023. Rhan amser oedd y rôl tan nawr. 

Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe Swyddog Sabothol i’r Gymraeg sy’n aelodau gweithredol o Undeb y Myfyrwyr, ac roedd myfyrwyr yng Nghaerdydd yn dadlau bod angen y swydd yn y brifddinas hefyd.  

'Braint anhygoel'

Dywedodd Deio Owen wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "fraint anhygoel cael fy ethol fel yr un cyntaf. Dwi'n gwbo' bo hyn ar 'sgwydda lot fawr o fyfyrwyr sydd 'di bod o fy mlaen i felly dwi'n gobeithio adeiladu ar hyn ag adeiladu ar gyfer y dyfodol. 

"Fyddai ddim yma am byth yng Nghaerdydd felly fydd o'n neis gadael ryw fath o sail i bobl adeiladu ar fy ôl i."

Deio oedd trysorydd pwyllgor y GymGym y llynedd, sef Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ymgyrchu dros greu'r rôl newydd. 

"Ma' GymGym wedi bodoli yng Nghaerdydd ers blynyddoedd ac yn mynd law yn llaw efo'r ymgyrch mewn ffordd ond yn amlwg, di'r GymGym ddim yna i gynrychioli myfyrwyr, 'dan ni yna i gymdeithasu a rhoi profiad Cymraeg i fyfyrwyr sydd isio profiad Cymraeg yn y brifysgol, felly mae o'n dda iawn bod 'na gyfle i gael cynrychiolaeth Cymraeg fel bod 'na lais ar gyfer pob myfyriwr Cymraeg," meddai.

'Cymaint i'w gynnig'

Mae gan Deio nifer o bethau y mae'n gobeithio ei gyflawni yn ei rôl newydd.

"Yn y swydd, fyswn i'n trio sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld, ei chlywed a'i pharchu, bod 'na gyfleoedd ni yn unig i siaradwyr Cymraeg o Gymru sy'n dod yma i astudio a pharhau efo'u Cymraeg ond hefyd i bobl sy'n dod i Gaerdydd, ma' nhw'n gweld bod y Gymraeg yn bodoli a chael cyfle i'w defnyddio, nid jest y iaith, y diwylliant, y gymuned - ma' 'na gymaint i'w gynnig," meddai.

Dywedodd hefyd fod yna "le i wella" o ran dwyieithrwydd yn y brifysgol.

"O ran dwyieithrwydd, dwi'm yn meddwl bod ni'n gneud rhy ddrwg. Fel lot o sefydliada, ma' 'na lot o lefydd i wella'n amlwg," meddai.

"Yr ochr academaidd, dwi'n meddwl bod angen gwella'r ddarpariaeth sydd ar gael mewn lot o ysgolion, dwi ddim yn meddwl bod 'na ddigon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bobl sydd isio astudio'n Gymraeg, a gwella cyfathrebu dwyieithog a'n Gymraeg rhwng adrannau academaidd i ddangos bo' chi ddim yn goro jest derbyn bob dim en masse yn Saesneg, bod gennych chi'r hawl i dderbyn cyfathrebiaeth yn Gymraeg."

Bydd Deio yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Gorffennaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.