Llywodraeth Cymru yn poeni am gynnydd yn nifer yr achosion o TB mewn gwartheg ar Ynys Môn

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder am gynnydd yn nifer yr achosion o TB mewn gwartheg ar Ynys Môn.
Mae data gwyliadwriaeth hyd at 30 Medi'r llynedd yn dangos mai nifer cyfartalog yr achosion agored ar ddiwedd pob chwarter oedd 6.
Mae hyn yn gynnydd o'r 5.5 ar gyfer y flwyddyn flaenorol a 3.25 ar gyfer 2017.
Dywedodd y Llywodraeth: "Er bod y ffigurau hyn yn parhau yn galonogol o isel, o’u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru, mae’r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn buchesi yn peri pryder ynglyn â chynnydd yng nghyfraddau’r clefyd a nifer y gwartheg sy’n cael eu difa i reoli TB."
Ychwanegodd fod y tueddiadau cynnar hyn yn awgrymu y gallai hon fod yn ardal arall sydd â TB yn dod i'r amlwg, yn dilyn y clystyrau sydd bellach wedi'u sefydlu yng nghefn gwlad Wrecsam ac yn fwy diweddar yn Sir Ddinbych a Dyffryn Conwy.
Er mwyn ceisio atal lledaeniad y clefyd, mae'r llywodraeth yn ystyried cyflwyno mesurau ychwanegol.
Tra bo’r mesurau hyn yn cael eu datblygu, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ffermwyr i wneud yn siŵr eu bod yn deall statws TB a hanes y fuches a'r ardal y maen nhw'n prynu gwartheg.
Yn ogystal, maen nhw'n gofyn i ffermwyr fod yn ymwybodol o brofion TB a hanes symud anifeiliaid unigol, ymysg nifer o fesurau eraill.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths y bydd holl ffermwyr gwartheg ar yr ynys yn derbyn llythyr yn eu cynghori am fesurau i warchod eu gwartheg.