Newyddion S4C

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystyried newid arwyddair oherwydd y gair 'gwyn'

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystyried newid arwyddair oherwydd y gair 'gwyn'

NS4C 14/03/2023

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod yn ystyried newid eu harwyddair oherwydd y gallai cyfieithiad llythrennol y geiriau “Byd gwyn” arwain at gamddehongli hiliol.

“Byd gwyn fydd byd a gano. Gwaraidd fydd ei gerddi fo.”

Cafodd y cwpled adnabyddus hwn ei gyfansoddi gan T. Gwynn Jones, ac ers 75 o flynyddoedd, dyma arwyddair i Eisteddfod sy’n denu pobl o bedwar ban byd i Ogledd Cymru.

Cyfieithiaid Saesneg o eiriau’r bardd T Gwynn Jones ydy ‘Blessed world’, ond mewn ymgynghoriad diweddar i foderneiddio’r ŵyl, fe ddaeth i’r amlwg bod rhai yn poeni bod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth eu cyfieithu.

Ac felly mae Pwyllgor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystyried dewis arwyddair newydd a fydd yn “adlewyrchu egwyddorion y ganrif hon.”

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Camilla King, Cynhyrchydd Gweithredol yr Eisteddfod, bod “y Pwyllgor yn cwrdd nos Fercher, ac fe fyddwn ni’n trafod ymhellach yno.

“Ond yn sicr, rydym mewn trafodaethau ynglŷn â chomisiynu arwyddair newydd gan fardd o’r oes fodern.”

Ond i Gareth Vaughan, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd, byddai newid yr arwyddair yn “ hollol ddiangen.”

“Mae hyn yn dangos anwybodaeth pur. Newid er mwyn newid yw hyn.

“Sut fedrwch chi ddweud bod Llangollen yn hiliol?” mae e’n cwestiynu. “Yn yr achos yma, fel yn y Beibl, mae’r “gwyn” yn golygu “blessed be a world that sings”.

I Dr Iwan Wyn Rees, sy’n uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r penderfyniad yn un “eironig”.

“Mae pwyslais y cwpled ar undod, ar frawdgarwch, ar bobl o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd,” meddai.

“Wrth gwrs, mi oedd T. Gwynn Jones yn heddychwr mawr, felly mae’n hynod eironig fod hwn yn destun dadlau a ffrae ar hyn o bryd.”

Mae’r penderfyniad i olygu’r arwyddair yn sicr wedi hollti barn.

Bydd Pwyllgor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cwrdd nos Fercher i drafod ymhellach.

Os ydyn nhw’n penderfynu cyflwyno'r newid, yna mae disgwyl y byddan nhw’n comisiynu artist a bardd newydd i lunio logo ac arwyddair newydd.

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.