Wally'r Walrws yn cefnu ar Gymru

ITV Cymru 20/05/2021
Wally'r Walrus
Wally'r Walrus - Factfinder404, drwy WikimediaCommons

Mae Wally'r Walrws wedi gadael Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro ac wedi cyrraedd Padstow oddi ar arfordir Cernyw.

Cafodd Wally ei weld gan grŵp o bobl ar fordaith ddydd Mercher, yn ôl ITV.

Mae tua 20,000 walrws yng Ngogledd yr Iwerydd ond mae gweld un yn y Deyrnas Unedig yn anarferol.

Y gred yw fod Wally yn cysgu ar ddarn o ia cyn cyrraedd Dinbych-y-Pysgod fis Mawrth.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Factfinder404

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.