Newyddion S4C

S4C

Y cyflwynydd radio Geraint Lloyd i ymuno â gorsaf MônFM 

NS4C 14/03/2023

Bydd Geraint Lloyd, cyn-gyflwynydd BBC Radio Cymru, yn ymuno a thîm radio Cymunedol MônFM.

Bydd rhaglen gyntaf Sioe Radio Geraint Lloyd ar yr awyr am 21:00 ar nos Fawrth, 11 Ebrill.

Dywedodd Tony Wyn Jones, Cadeirydd a phennaeth rhaglenni MônFM: “Mae Geraint wastad wedi paratoi cynnwys radio rhagorol dros y degawdau, gyda’r ddawn o gysylltu’n agos gyda materion ar lawr gwlad - mae’n fraint croesawu Geraint i MônFM – rydym yn edrych ymlaen at sgyrsiau difyr a cherddoriaeth wych bob nos Fawrth.”

Dywedodd Geraint Lloyd: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â thîm Radio Cymunedol MônFM, a chadw cysylltiad gyda fy ngwrandawyr ar draws Cymru - ar FM yng Ngogledd Orllewin Cymru a thu hwnt ar-lein neu drwy App MônFM sydd ar gael am ddim i’w lawrlwytho neu drwy seinydd clyfar.”

Fe wnaeth BBC Radio Cymru ddod â rhaglen Geraint Lloyd i ben ddechrau fis Hydref y llynedd, ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar yr orsaf.

Roedd y newyddion yn syndod a siom i nifer o'i wrandawyr ffyddlon ar y pryd, ac fe wnaeth dros 700 o bobl lofnodi deiseb i achub y rhaglen.

 


 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.