Newyddion S4C

Huw Evans Agency

Aaron Ramsey wedi ei enwi yn gapten ar dîm pêl-droed Cymru

NS4C 14/03/2023

Mae Aaron Ramsey wedi ei enwi’n gapten ar dîm pêl-droed Cymru.

Mi fydd y chwaraewr canol cae, sydd â 78 cap dros ei wlad, yn olynu Gareth Bale, yn dilyn ei ymddeoliad yn gynharach eleni.

Bydd Ramsey, sydd yn chwarae dros glwb OGC Nice yn Ffrainc, yn arwain y tîm yn eu hymgyrch ragbrofol UEFA Euro 2024, sydd yn dechrau ar 25 Mawrth gyda gêm oddi cartref yn erbyn Croatia.

Dyma'r eildro yng ngyrfa Ramsey iddo gael ei benodi'n gapten ar Gymru. Fe gafodd ei ddewis i arwain y tîm yn 2011 gan y cyn hyfforddwr Gary Speed, gan ei wneud y Cymro ieuengaf i fod yn gapten ar y tîm cenedlaethol.

Mewn cynhadledd i'r wasg yn Sain Ffagan, dywedodd Rob Page: "Aaron oedd y dirprwy tra roedd Gareth Bale yn gapten, ac i fi, dyma'r esblygiad naturiol.

"Mae gan Aaron lot o bêl-droed dal i chwarae. Mae'n chwarae yn agos at ei orau dros Nice ar y funud, a tra bod rhywun o ansawdd Aaron dal ar gael i ni, mi fyddwn ni'n sicr yn ei gynnwys yn y garfan."

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad carfan Rob Page ar gyfer gemau agoriadol yr ymgyrch, gyda pedwar chwaraewr di-gap  yn cael eu cynnwys.

Fe allai Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead i gyd chwarae eu gemau cyntaf dros eu gwlad wrth i Gymru herio Croatia a Latfia ddiwedd y mis. 

Mae Tom Bradshaw hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers pum mlynedd wedi iddo serennu yn y Bencampwriaeth gyda Millwall. 

Roedd disgwyl nifer o newidiadau yng ngharfan gyntaf hyfforddwr Rob Page ers y siom yng Nghwpan y Byd yn Qatar. 

Mae llenwi bylchau rhai o hoelion wyth pêl-droed Cymru wedi bod yn dipyn o her i Page, ar ôl i Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams gyhoeddi eu bod yn ymddeol o'r tîm rhyngwladol yn ystod y misoedd diwethaf. 

Bellach fe fydd disgwyl i chwaraewyr profiadol eraill gynorthwyo Ramsey, wrth i Gymru anelu i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Euros am y trydydd tro yn olynol. 

Y Garfan Lawn

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Ben Davies, Neco Williams, Ben Cabango, Oliver Cooper, Tom Lockyer, Joe Rodon, Chris Mepham, Ethan Ampadu, Connor Roberts, Sorba Thomas, Jordan James, Nathan Broadhead, Wes Burns, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Daniel James, Kieffer Moore, Luke Harris, Brennan Johnson, Tom Bradshaw.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.