Newyddion S4C

Pedwar chwaraewr di-gap yng ngharfan Cymru ar gyfer dechrau ymgyrch Euro 2024

14/03/2023
Ollie Cooper

Mae pedwar chwaraewr di-gap wedi'u cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau agoriadol yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd pencampwriaeth bêl-droed Euro 2024. 

Fe allai Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead i gyd chwarae eu gemau cyntaf dros eu gwlad wrth i Gymru herio Croatia a Latfia ddiwedd y mis. 

Mae Tom Bradshaw hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers pum mlynedd wedi iddo serennu yn y Bencampwriaeth gyda Millwall. 

Roedd disgwyl nifer o newidiadau yng ngharfan gyntaf hyfforddwr Rob Page ers y siom yng Nghwpan y Byd yn Qatar. 

Mae llenwi bylchau rhai o hoelion wyth pêl-droed Cymru wedi bod yn dipyn o her i Page, ar ôl i Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams gyhoeddi eu bod yn ymddeol o'r tîm rhyngwladol yn ystod y misoedd diwethaf. 

Bellach fe fydd disgwyl i chwaraewyr eraill profiadol arwain Cymru i'w thrydedd bencampwriaeth Euros yn olynol. 

Wedi i Gareth Bale gamu o'r neilltu, fe fydd disgwyl i Aaron Ramsey gymryd ei le fel prif chwaraewr Cymru. 

Mae gobeithion hefyd y gall chwaraewyr fel Dan James, Harry Wilson ac Ethan Ampadu ddatblygu ymhellach i gadw oes euraidd pêl-droed Cymru yn fyw. 

Mae Brennan Johnson, un o brif sêr ifanc Cymru, hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan, er iddo ddioddef anaf wrth chwarae i Nottingham Forest dros y penwythnos.

Nid yw Rob Page wedi dweud pwy fydd yn olynu Gareth Bale yn gapten. 

Mae disgwyl i'r prif hyfforddwr drafod ei garfan yn fanylach mewn cynhadledd newyddion yn Sain Ffagan am 13:30 brynhawn Mawrth. 

Y Garfan Lawn

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Ben Davies, Neco Williams, Ben Cabango, Oliver Cooper, Tom Lockyer, Joe Rodon, Chris Mepham, Ethan Ampadu, Connor Roberts, Sorba Thomas, Jordan James, Nathan Broadhead, Wes Burns, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Daniel James, Kieffer Moore, Luke Harris, Brennan Johnson, Tom Bradshaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.