Apelio am wybodaeth wedi digwyddiad honedig yn ymwneud â chasineb ar fws yng Ngwynedd

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi digwyddiad honedig yn ymwneud â chasineb ar fws yng Ngwynedd.
Yn ôl yr heddlu fe ddigwyddodd y digwyddiad am tua 21:00, ar 23 Ionawr, ar fws Arriva 5C rhwng Caernarfon a’r Felinheli.
Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o berson yn eistedd ar y bws, ac maent yn gofyn i unrhyw un sydd gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Mae modd cysylltu drwy wefan yr heddlu neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod trosedd 23000067844.