Liam Williams allan o garfan Cymru i wynebu Ffrainc gydag anaf

Ni fydd Liam Williams yn chwarae yn erbyn Ffrainc yn rownd olaf y Chwe Gwlad wedi iddo dynnu allan o garfan Cymru gydag anaf.
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi bod y cefnwr wedi dioddef anaf i'w ysgwydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal dros y penwythnos.
Mewn diweddariad i'r garfan, mae Williams, yn ogystal â'r bachwr Scott Baldwin a chanolwr Keiran Williams wedi tynnu allan gydag anafiadau.
Mae bachwr y Gweilch, Sam Parry, wedi'i ychwanegu i'r garfan wrth i Gymru baratoi i wynebu Ffrainc ddydd Sadwrn.
Ni ddychwelodd y tîm i Gymru yn dilyn y gêm yn Rhufain, gan deithio i Nice yn lle er mwyn paratoi ar gyfer gornest olaf y bencampwriaeth ym Mharis.
Mae disgwyl i Taulupe Faletau ennill ei ganfed cap yn y Stade de France, gyda Chymru yn edrych i adeiladu ar eu unig fuddugoliaeth o'r gystadleuaeth hyd yn hyn.
Fe fydd y dynion mewn coch yn wynebu mynydd o her i oresgyn y Ffrancwyr, wedi iddynt drechu Lloegr 10-53 dros y penwythnos.
Llun: Asiantaeth Huw Evans