Newyddion S4C

Teyrngedau i'r llenor a'r Prifardd John Gruffydd Jones

s4c

Bu farw'r llenor a'r Prifardd John Gruffydd Jones yn 90 oed.

Enillodd dair o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol o fewn chwe blynedd, nôl yn yr wythdegau, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Machynlleth yn 1981 , Tlws y Ddrama ym mhrifwyl Abergwaun yn 1986 a'r Goron ym Mhorthmadog yn 1987.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, bu'n olygydd ar gylchgrawn Y Goleuad ac roedd yn gemegydd diwydiannol wrth ei waith.

Cafodd ei fagu yn Nanhoron, cyn symud i fyw i Fanceinion, lle treuliodd 17 mlynedd.

Ymgartrefodd gyda'i wraig Eirlys yn Abergele yn 1967.

Yn ogystal â’i lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, fe enillodd radd MA Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012. Ymhlith eu weithiau, mae'r nofel 'Dawns Ganol Dydd' a'r casgliad o gerddi 'Ai Breuddwydion Bardd Ydynt?'

Bu'n olygydd ar Y Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng mlynedd rhwng 2000 a 2010. Roedd hefyd yn golofnydd misol ym mhapur bro Y Glannau.

Mae’n gadael ei ferch Delyth Marian a’i fab Dafydd Llewelyn, yn ogystal â thair o wyresau.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel “llenor, bardd a dramodydd heb ei ail.

“Nid ar chwarae bach mae llwyddo i ennill y Fedal Ddrama, y Fedal Ryddiaith a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ystod y 1980au, John Gruffydd Jones oedd yr un i’w guro yng nghystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod.  

“Roedd bob amser yn barod ei gefnogaeth i’r Eisteddfod, lle bynnag oedd yr ŵyl yng Nghymru. Gyda’i wreiddiau’n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni, a’i Goron wedi’i hennill ym Mro Madog yn 1987, fe fyddwn yn meddwl yn annwyl iawn amdano, ei deulu a’i gyfeillion yn ystod yr Eisteddfod yn Llyn ac Eifionydd ym mis Awsrt.  Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu heddiw.”

Llun teulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.