Newyddion S4C

Person ar goll a thri wedi eu cludo i ysbyty yn sgil ffrwydrad yn Nhreforys

Person ar goll a thri wedi eu cludo i ysbyty yn sgil ffrwydrad yn Nhreforys

NS4C 13/03/2023

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod un person ar goll a thri wedi eu cludo i ysbyty ar ôl ffrwydrad ar Ffordd Clydach yn Nhreforys, Abertawe fore Llun. 

Mae'r gwaith o geisio dod o hyd i'r person sydd ar goll yn parhau, yn ôl yr heddlu.  

Ychwanegodd yr heddlu fod difrod sylweddol i ddau eiddo, gyda difrod hefyd i dai cyfagos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r stryd yn Nhreforys tua 11.20 fore Llun, ar ôl derbyn adroddiadau fod difrod sylweddol i adeiladau yng nghanol stryd o dai.

Yn ôl adroddiadau yn lleol, cafodd ffrwydrad uchel ei glywed tua 11.20, a chafodd ei glywed filltiroedd i ffwrdd.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae Ffordd Clydach wedi ei chau, ac maen nhw'n apelio ar bobol i osgoi'r ardal:

"Rydym yn diolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra bo ymchwiliad yr heddlu yn cael ei gynnal, " meddai eu datganiad.   

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir a Dinas Abertawe, Rob Stewart, "ffrwydrad nwy" sy'n cael ei amau o achosi'r difrod.

Mewn datganiad, dywedodd Wales & West Utilities, sy'n cynnal y rhwydwaith nwy: " Cawsom ein galw yn sgil adroddiadau am ffrwydrad ar Ffordd Clydach. Fe wnaethom ni anfon tîm o beirianwyr yno yn syth. " 

“Wedi i ni gyrraedd, fe wnaethom ddarganfod fod difrod sylweddol i strwythur eiddo yno. 

“Rydym nawr yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys i wneud y safle yn ddiogel. 

“Dy'n ni ddim yn gwybod eto be' achosodd y ffrwydrad, a bydd ein peirianwyr yn dal i gefnogi'r gwasanaethau brys wrth iddyn nhw barhau â'u gwaith."

Mae canolfan wedi ei sefydlu gan y cyngor lleol er mwyn rhoi lloches i bobol sy'n methu â dychwelyd i'w cartrefi. Mae nifer wedi ymgynnull yn Neuadd Goffa Treforys tra bo eraill yn aros yn nhafarn y Llew Coch gerllaw. 

Yn ôl adroddiadau yn lleol, dyw nifer o bobl ddim yn medru dychwelyd adref, wrth i'r gwasanaethau brys barhau a'u hymchwiliad.  

Mae Clwb Rygbi Treforys hefyd wedi cynnig cymorth.

Dywedodd y clwb ar Facebook: "Os oes unrhyw beth i ni'n gallu gwneud i helpu, rhowch wybod i ni. Rydym yn gallu cynnig lle twym a diogel i unrhyw yn sydd ei angen."

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân Y Canolbarth a'r Gorllewin iddyn nhw gael eu galw tua 11.20.

"Cafodd criwiau o Dreforys, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gorseinon a Phort Talbot eu galw, yn sgil sawl adroddiad am ffrwydrad nwy. 

"Yn ogystal â'r Gwasanaeth Tân, mae Heddlu De Cymru, a'r Gwasanaeth Ambiwlans ar y safle,"  meddai eu datganiad.  

Cafodd dau ambiwlans awyr eu hanfon i'r  ardal hefyd.

Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Sioned Williams, yr Aelod o'r Senedd ar ran Plaid Cymru, sy'n cynrychioli Gorllewin De Cymru: "Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy yma," meddai. 

Yn ôl adroddiadau yn lleol, mae'r difrod yn eang, gyda ffenestri wedi torri mewn cartrefi gerllaw, a cherbydau wedi eu difrodi ar y stryd. 

Dywedodd Christopher Yeoman, 55, ei fod yn byw ar bwys safle'r ffrwydrad ac iddo helpu i achub bachgen yn ei arddegau a'i fam o'r rwbel. Dywedodd wrth wasanaeth newyddion PA : “ Mi welais y ffrwydrad cyn i mi ei glywed, ac yna daeth swn anferthol. 

“Fe hedfanodd popeth i'r ffordd gan fwrw postmon a oedd yn gyrru heibio. 

“Fe wnaeth popeth ysgwyd, fy narluniau i gyd ar y waliau, ac roeddwn i'n poeni am fy mam 95 oed a oedd i lawr grisie." 

Prif Lun: Adam Thomas 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.