Delwedd o’r Brenin yn ymddangos ar stampiau am y tro cyntaf

Bydd y stampiau cyntaf sy'n cynnwys delwedd o’r Brenin Charles yn mynd ar werth ddydd Mawrth.
Bydd y ddelwedd o'r Brenin heb goron yng nghornel chwith uchaf y stampiau, a bydd yn ymddangos ar gasgliad o 10 stamp arbennig yn dathlu blodau poblogaidd.
Dywedodd y Post Brenhinol fod y stampiau yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Prydain.
Yn ôl David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol: “Mae Prydain yn genedl o arddwyr, ac mae cariad at flodau yn ddwfn yn ein hymwybyddiaeth.
“Mae’n hysbys bod Ei Fawrhydi’n arddwr angerddol ac rydym wrth ein bodd bod y stampiau arbennig cyntaf yn ddathliad o rai o flodau mwyaf poblogaidd gerddi Prydain.”
Mae'r pys melys cain - un o hoff flodau'r ddiweddar Frenhines Elizabeth - ymhlith y blodau sydd wedi eu dewis.
Mae un arall yn dathlu blodyn yr haul, sydd hefyd yn flodyn cenedlaethol Wcráin, ac yn symbol o gefnogaeth i'r wlad sydd yng nghanol rhyfel.
Mae’r stampiau blodau dosbarth cyntaf ar gael i’w harchebu o 14 Mawrth.