Heddlu yn arestio dyn yn dilyn marwolaeth dynes yn y Barri

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn yn dilyn marwolaeth dynes 50 oed yn y Barri.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Heol Gladstone o gwmpas 03.30 fore Sul, 12 Mawrth.
Mae dyn 50 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maent yn apelio am unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i ffonio Heddlu De Cymru, gan ddyfynu’r rhif digwyddiad *080241.