Wythnos arall o oedi i rai gwasanaethau trenau o achos gwaith atgyweirio

Bydd rhagor o oedi i rai gwasanaethau trên ar draws Cymru yr wythnos hon.
Gyda gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal ar drenau Dosbarth 175, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gwaith nawr yn parhau drwy'r wythnos hon hyd at ddydd Gwener 17 Mawrth, ar ôl cyhoeddi’n wreiddiol y byddai'r gwaith wedi ei gwblhau erbyn 10 Mawrth.
O ganlyniad, bydd oedi yn debygol ar draws rhwydwaith Cymru a’r gororau, gyda rhai llinellau yn parhau ar gau a gwasanaethau yn cael eu canslo.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bob amser ac mae’n bwysig bod yr holl wiriadau a’r gwaith trwsio angenrheidiol yn cael eu cyflawni ar bob un o’n trenau Dosbarth 175 cyn y byddant yn cael eu dychwelyd i wasanaeth unwaith yn rhagor.”
Dyma restr o’r gwasanaethau sydd wedi eu heffeithio:
Casnewydd – Cross Keys – Gwasanaeth wedi'i ganslo (dim bws yn lle trên).
Caer - Lerpwl – Gwasanaeth wedi ei ganslo.
Lein Dyffryn Conwy – gwasanaeth wedi’i ganslo (bws yn lle trên).
Lein Wrecsam - Bidston – gwasanaeth wedi’i ganslo gyda bws yn lle trên.
Rheilffyrdd Gorllewin Cymru – rhai gwasanaethau i Ddoc Penfro (w/d 13/03) wedi’u canslo gyda bws yn lle trên ar waith.
Holl wasanaethau Aberdaugleddau ac Abergwaun wedi'u canslo i'r gorllewin o Gaerfyrddin - bydd bws yn lle trên ar gael ar gyfer y mwyafrif o'r gwasanaethau hyn.
Arfordir y Cambrian – gwasanaeth ben bore Y Bermo wedi’i ganslo, bydd bws yn lle trên yn weithredol.
Llinellau Craidd y Cymoedd – llai o wasanaeth ar rai llwybrau.