Newyddion S4C

Richard Irvine.jpg

Prif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru yn dechrau yn ei rôl

NS4C 13/03/2023

Bydd Prif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru yn dechrau yn ei rôl ddydd Llun.

Mae Dr Richard Irvine yn ymuno â Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfnod fel Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y DU. 

Mae Mr Irvine wedi bod yn gweithio yn y byd milfeddygol ers mwy na 25 o flynyddoedd, gyda chefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach a milfeddygaeth gwladol. 

Mae ganddo hefyd brofiad o arwain rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. 

Dywedodd Dr Irvine fod "ffermwyr a milfeddygon ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych ac rwy'n edrych ymlaen at eu cyfarfod a'u cefnogi fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.

"Rydym i gyd wedi ymrwymo i amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein nodau ar y cyd.

"Mae llawer wedi’i gyflawni yng Nghymru a fy ngwaith i, ochr yn ochr â'r tîm yn Llywodraeth Cymru, yw adeiladu ar hynny."

Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y bydd "arweinyddiaeth ac arbenigedd Richard yn hanfodol wrth gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid a'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

"Bydd ei wybodaeth a'i brofiad yn gaffaeliad mawr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.