Rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru

Mae rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru ddydd Llun.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 17:00 ddydd Llun ac yn parhau tan 10:00 ddydd Mawrth.
Mae disgwyl y bydd y ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio a phosibilrwydd y gallai pobl gael eu hanafu yn sgil y rhew.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd glaw o bosib yn troi'n eira wrth iddi nosi ddydd Llun, ond yn bennaf ar dir uwch dros 200m.
“Bydd yr eirlaw a’r eira yn clirio tua’r de-orllewin ddydd Mawrth, ond bydd y tymheredd yn syrthio a rhew yn ffurfio, yn enwedig ar arwynebau sydd heb eu trin,” meddai.
Yn y cyfamser mae rhybudd melyn am wynt cryf wedi ei gyhoeddi ar gyfer Sir Fynwy rhwng 10:00 a 18:00 ddydd Llun.
Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd wedi cyhoeddi fod dwy ffordd yn y de orllewin ar gau fore dydd Llun, a hynny gan fod coed wedi disgyn. Y ffyrdd dan sylw yw'r A484 rhwng Cenarth a Chastell Newydd Emlyn, a'r B4300 rhwng Capel Dewi a Thregynwr.
Dyma'r siroedd sydd wedi eu cynnwys yn y rhybudd melyn am eira a rhew ar gyfer dydd Llun:
1) Ynys Môn
2) Gwynedd
3) Conwy
4) Wrecsam
5) Sir Ddinbych
6) Sir y Fflint
7) Powys
8) Ceredigion