Ken Owens yn ‘mwynhau rygbi unwaith eto’ ar ôl trechu yr Eidal
Mae capten Cymru, Ken Owens wedi dweud ei fod ef a chwaraewyr eraill y tîm wedi “mwynhau rygbi unwaith eto” wrth drechu'r Eidal yn Rhufain.
Dywedodd y bydd chwaraewyr Cymru hefyd yn mwynhau rywfaint o amser “y tu allan i fowlen pysgodyn aur” Cymru wrth deithio i Baris i wynebu Ffrainc.
Buddugoliaeth 29-17 Cymru oedd eu cyntaf yn y Chwe Gwlad eleni.
Daeth ar ôl cyfnod tywyll i’r tîm yn cynnwys tair colled yn y Chwe Gwlad i’w hychwanegu at y rheini yn erbyn Georgia ac Awstralia yn yr hydref.
Roedd hefyd anghydfod rhwng y chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â chytundebau gyda rhai yn bygwth streicio yn ystod gem Lloegr.
“Roedd Justin Tipuric wedi dweud mai’r nod oedd wythnos hon oedd mwynhau rygbi unwaith eto ac rydw i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud hynny,” meddai Ken Owens.
“Mae yna lawer iawn wedi bod yn mynd ymlaen dros y chwe wythnos ddiwethaf ar y cae ac oddi ar y cae.
“Ry’n ni wedi gweithio’n galed fel grŵp ac roedd yn braf gweld y mwynhad yna, a gweithio’n galed dros ein gilydd pan oedden ni dan bwysau.
“Fe awn ni i Nice nawr a chael pedwar neu bump o ddiwrnodiau i baratoi y tu allan i’r bowlen pysgodyn aur, a fydd yn wych.
“Fe wnawn ni ganolbwyntio ar y rygbi a throi lan ym Mharis a gobeithio ennill.”
Bydd her ar lefel gwahanol yn wynebu Cymru ym Mharis wedi i’r Ffrancwyr chwalu Lloegr 53-10 yn Twickenham.
Llun: Ken Owens yn wên o glust i glust wedi trechu yr Eidal. Llun gan Huw Evans.