Newyddion S4C

Lee Waters a Mark Drakeford

Drakeford: Sylwadau gweinidog am nyrsys ‘ddim yn adlewyrchu safbwynt y llywodraeth’

NS4C 12/03/2023

Doedd sylwadau gweinidog a gafodd ei recordio yn galw nyrsys yn “eithriadol o filwriaethus” ddim yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru, yn ôl Mark Drakeford.

Daeth y sylwadau gan y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters i’r amlwg mewn recordiad cudd o gyfarfod o fewn y Blaid Lafur.

Dywedodd Lee Waters bod Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yn "benderfynol o gael brwydr a dydyn nhw ddim yn ymroi o ddifri' i drafod".

Roedd Mr Waters, Llywodraeth Cymru a'r RCN wedi gwrthod cais am sylw ar y pryd.

Ond wrth siarad yng ghynhadledd Gymreig y Blaid Lafur dywedodd Mark Drakeford mai sylwadau “preifat” oedden nhw nad oedd yn adlewyrchu safbwynt ei lywodraeth.

“Wna i ddim beirniadu unrhyw undeb llafur sydd ar ddiwedd degawd o lymder ariannol a nawr yn wynebu chwyddiant mawr,” meddai wrth raglen Politics Wales.

“Rydw i’n gwybod bod eu gweithredoedd yn adlewyrchiad o anfodlonrwydd eu haelodau.

“Cafodd y gweinidog ei recordio mewn cyfarfod preifat a mae recordiad rhannol wedi ei gyhoeddi.

“Nid beth sy’n digwydd y tu ol i ddrysau caeedig sy'n bwysig ond beth mae’r llywodraeth yma yn sefyll drosto, sef gweithio ar y cyd gyda’r mudiadau llafur – hyd yn oed pan mae amseroedd yn anodd.”

‘Tynnu sylw’

Ychwanegodd Mark Drakeford fod pwy bynnag a gyhoeddodd y recordiad a aeth i law y Llanelli Herald wedi gwneud hynny yn fwriadol “er mwyn peidio a helpu” i ddatrys yr anghydfod.

“Fe wnaeth o’r sylwadau mewn cyd-destun penodol lle nad oedden ni wedi clywed y cyfan o’r hyn oedd ganddo i’w ddweud,” meddai Mark Drakeford.

“Y bwriad oedd tynnu sylw.”

Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu y sylwadau ac wedi galw ar Lee Waters i ymddiheuro.

Mae’r anghydfod gyda’r RCN yn parhau wedi i aelodau'r undeb bleidleisio "o fwyafrif llethol" ym mis Chwefror i wrthod cynnig diweddaraf y Gweinidog Iechyd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.