Newyddion S4C

Silicon Valley Bank a Jeremy Hunt

'Peryg gwirioneddol' meddai'r Canghellor wrth i'r banc mwyaf ers chwalfa ariannol 2008 fethu

NS4C 12/03/2023

Mae pryder cynyddol am chwalfa banc yn yr Unol Daleithiau wrth i Lywodraeth y DU a Banc Lloegr gwrdd i drafod sut i atal y difrod rhag lledu.

Bydd y Prif Weinidog Rishi Sunak, y Canghellor Jeremy Hunt, a Llywodraethwr Banc Lloegr Andrew Bailey yn cwrdd ddydd Sul er mwyn trafod.

Dywedodd Jeremy Hunt fod yna "beryg gwirioneddol" i ddiwydiant technoleg y Deyrnas Unedig o ganlyniad i fethiant y banc.

Silicon Valley Bank oedd y banc mwyaf i fethu ers chwalfa ariannol 2008.

Cafodd y banc ei gau gan reoleiddwyr banciau California ddydd Gwener.

Dyma oedd yr 16eg banc mwyaf yn yr Unol Daleithiau'r llynedd gyda $209 biliwn mewn asedau.

Roedd ganddo hefyd gangen yn y Deyrnas Unedig, Silicon Valley Bank UK.

Roedd pryder ddydd Sul y gallai cwmnïau ac unigolion ddechrau tynnu arian allan o fanciau bach eraill gan achosi chwalfa arall.

Mewn datganiad fore ddydd Sul dywedodd y Trysorlys eu bod nhw’n trin y pwnc fel un o “flaenoriaeth uchel”.

“Mae’r Llywodraeth yn gweithio’n gyflym ar ateb i osgoi neu leihau difrod i rai o’n cwmnïau mwyaf addawol yn y DU,” meddai'r Trysorlys mewn datganiad.

“Byddwn yn cyflwyno cynlluniau ar unwaith er mwyn diogelu anghenion tymor byr a llif arian cwsmeriaid Silicon Valley Bank UK.

“Mae’r Llywodraeth a’r Banc yn deall faint o bryder y mae hyn yn ei achosi i gwsmeriaid Silicon Valley Bank UK.”

‘Anodd’

Y gred yw bod penderfyniad y Gronfa Ffederal, y Fed, i godi cyfraddau llog er mwyn ceisio rheoli chwyddiant wedi chwarae rhan allweddol yn nhrafferthion y banc.

Dyma’r banc mwyaf i gael ei gau gan reoleiddwyr ers i Washington Mutual fynd i’r wal yn 2008.

Arweiniodd methiant cyfres o fanciau ar y pryd at ddirwasgiad byd-eang.

Gyrrodd prif weithredwr Silicon Valley Bank, Greg Becker neges fideo at ei staff ddydd Gwener yn cydnabod eu bod nhw mewn sefyllfa “ofnadwy o anodd”.

Dyw’r cwmni heb gynnig unrhyw sylw cyhoeddus, yn ôl Reuters.

Mae banciau yn yr Unol Daleithiau wedi colli $100bn o’u gwerth dros y dyddiau diwethaf o ganlyniad i bryderon am godi cyfraddau llog.

Llun: Silicon Valley Bank a Jeremy Hunt (Aaron Chown/PA).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.