Trawsnewidydd trydan anferth ar ei ffordd i draeth ger Porthmadog

Bydd trawsnewidydd trydan anferth sy'n pwyso dros 100 tunnell yn glanio ar draeth ger Porthmadog yn yr haf.
Digwyddodd yr un peth ym mis Medi 2020 gan ddenu cannoedd o wylwyr.
Dywedodd awdurdod porthladd Porthmadog y bydd y trawsnewidydd yn glanio ar y traeth ger Morfa Bychan.
Bydd y trawsnewidydd wedyn yn cael ei gludo i fyny i isbwerdy Trawsfynydd.
Mae disgwyl y bydd hyn yn digwydd ym mis Mehefin neu Orffennaf, gan obeithio y bydd cludo’r trawsnewidydd dros y môr yn bennaf yn osgoi oedi ar y ffyrdd.
Dywedodd pennaeth harbwr Porthmadog Malcolm Humphreys ei fod wedi cael gwybod bod y trawsnewidydd ar ei ffordd.
“Mae disgwyl i’r llong lanio ar y traeth ym Morfa Bychan yn hwyr ym mis Mehefin neu ddechrau Gorffennaf pan fydd yr amgylchiadau o ran y llanw yn ddelfrydol,” meddai wrth Gyngor Gwynedd.
Dywedodd Cyngor Gwynedd mai’r llong Terra Marique fydd yn cario’r trawsnewidydd i Gymru.
Llun o'r newidydd diwethaf yn cyrraedd Porthmadog gan Robert Wynn and Sons.