Cymeradwyo cynllun i drosglwyddo Neuadd Dewi Sant i ddwylo preifat

Mae cynllun dadleuol i drosglwyddo Neuadd Dewi Sant i ddwylo cwmni preifat wedi ei gymeradwyo yn derfynol gan gyngor Caerdydd.
Yn dilyn cyfarfod gan gyngor y ddinas ddydd Iau i bennu y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 daeth cadarnhad y bydd y cynlluniau yn mynd yn eu blaen.
Roedd dros 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i wrthwynebu cynllun Cyngor Caerdydd i drosglwyddo cyfrifoldeb am Neuadd Dewi Sant i gwmni preifat.
Roedd rhai o gerddorion amlycaf Cymru, gan gynnwys Catrin Finch, wedi mynegi pryder am ddyfodol cerddoriaeth glasurol yn y brifddinas.
'Dirywio'
Cadarnhaodd y cyngor hefyd y bydd treth cyngor y ddinas yn codi 3.95% ar gyfer 2023/24.
Gobaith y cyngor ydi y bydd hyn yn helpu i gau'r bwlch cyllidebol o £24 miliwn sydd wedi ei greu yn sgil chwyddiant cynyddol a'r cynnydd yn y galw am wasanaethau.
Er hyn, ni fydd cynllun dadleuol arall sef symud Amgueddfa Caerdydd o'i safle presennol yn cael ei gynnwys yng nghyllideb y cyngor.
Cafodd newidiadau i'r gyllideb eu cyflwyno gan y gwrthbleidiau ar y cyngor, gyda'r Ceidwadwyr yn gofyn am rewi'r dreth cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Jayne Cowan o'r Ceidwadwyr fod cynnydd parhaus yn y dreth cyngor "yn syml angen dod i ben" gan ychwanegu fod "gwasanaethau yn dirywio, ac nid ydym yn darparu gwerth am arian i''r trethdalwr."
Wrth ymateb i gyllideb amgen y grŵp Ceidwadol, dywedodd aelod cabinet Cyngor Caerdydd ar gyfer cyllid, moderneiddio a pherfformio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Rydych chi'n cynnig rhewi, ond rydych yn talu amdano drwy ddefnyddio cronfeydd yn bennaf."