Darlledu Match of the Day heb gyflwynwyr, arbenigwyr na nifer o sylwebwyr amlwg

Bydd Match of the Day yn cael ei darlledu nos Sadwrn heb gyflwynwyr, arbenigwyr na nifer o sylwebwyr amlwg wedi i Gary Lineker gael ei dynnu oddi ar y rhaglen.
Daw hyn yn sgil ei sylwadau oedd yn beirniadu polisi lloches Llywodraeth San Steffan.
Ni fydd Lineker yn cyflwyno'r rhaglen ar BBC One nes y bydd ef a'r BBC yn dod i gytundeb ar ei ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, meddai'r gorfforaeth mewn datganiad ddydd Gwener.
Yn ddiweddarach nos Wener, dywedodd y BBC na fydd yna "unrhyw gyflwyno na dadansoddi yn y stiwdio" a bydd y sioe yn canolbwyntio ar "y gêm yn unig."
Everybody knows what Match of the Day means to me, but I’ve told the BBC I won’t be doing it tomorrow. Solidarity.
— Ian Wright (@IanWright0) March 10, 2023
Fe wnaeth y sylwebwyr Steve Wilson, Simon Brotherton, Conor McNamara a Robyn Cowen ddilyn Ian Wright ac Alan Shearer drwy ddweud na fyddant yn ymddangos ar y rhaglen nos Sadwrn.
'Ddim yn teimlo'n iawn'
Mae amserlen chwaraeon y gorfforaeth hefyd wedi ei amharu arni ymhellach ddydd Sadwrn wedi i rhagor o gyflwynwyr wrthod â chyflwyno rhaglenni.
Dywedodd Alex Scott fore Sadwrn nad oedd hi'n bwriadu cyflwyno rhaglen Football Focus heddiw "am nad yw'n teimlo'n iawn".
Ychwanegodd Kelly Somers na fyddai'n cyflwyno unrhyw sioe ddydd Sadwrn chwaith.
Wrth siarad ar ei bodlediad nos Wener, dywedodd Ian Wright: "Dwi'n mynd, dwi'n gadael os ydy'r BBC yn cael gwared o Gary Lineker" ac fod y ddadl wleidyddol yma yn "tynnu'r sylw yn berffaith" o'r llywodraeth.
Cafodd Lineker ei wahardd o'r rhaglen yn dilyn ffrae wleidyddol ar ôl cymharu'r iaith a oedd yn cael ei defnyddio i lansio polisi lloches newydd Llywodraeth San Steffan gyda'r hyn oedd yn digwydd yn Yr Almaen yn y 1930au.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae rhai o'n arbenigwyr pêl-droed wedi dweud nad ydynt yn dymuno ymddangos ar y rhaglen tra'r ydym ni'n ceisio datrys y sefyllfa gyda Gary.
"Rydym yn deall eu safbwynt ac wedi penderfynu y bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y gêm yn unig heb gyflwyno yn y stiwdio."
I have informed the BBC that I won’t be appearing on MOTD tomorrow night.
— Alan Shearer (@alanshearer) March 10, 2023
Dywedodd y sylwebydd Steve Wilson: "Fel sylwebwyr ar MOTD, rydym wedi penderfynu peidio ag ymddangos ar ddarllediad nos Sadwrn.
"Dan yr amgylchiadau, nid ydym yn credu y byddai'n briodol ymddangos ar y rhaglen," meddai.
Bydd chwaraewyr sy'n dymuno peidio cael eu cyfweld gyda'r BBC ar ôl gemau ddydd Sadwrn hefyd yn cael eu cefnogi gan Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA).
'Anochel'
Ond mae penderfyniad y BBC i atal Gary Lineker o’i ddyletswyddau ar Match Of The Day yn “anochel”, medd cyn-ysgrifennydd diwylliant y Ceidwadwyr.
Dywedodd Syr John Whittingdale wrth raglen PM ar BBC Radio 4: “Rwy’n meddwl ei fod yn anochel. Y broblem yw bod Gary Lineker wedi ei gwneud hi’n glir ei fod am barhau i drydar ei farn.
“Ac wrth gwrs mae ganddo’r hawl i arddel ei farn, ond y broblem yw ei fod o hefyd yn berson amlwg iawn – yn wir yr un sy’n cael y cyflog uchaf – yn gweithio i’r BBC ac mae ganddo gysylltiad agos â’r BBC.
“Ac mae gen i ofn nad yw'r ddau beth hynny'n gydnaws.”