Newyddion S4C

Ymateb 'annisgwyl' a 'hileriys' i gân ar Noson Lawen

12/03/2023

Ymateb 'annisgwyl' a 'hileriys' i gân ar Noson Lawen

Mae cyfansoddwr a pherfformiwr cân a gafodd ei darlledu ar Noson Lawen wedi cael "ymateb annisgwyl" i'w berfformiad.

Roedd Dafydd Rhys Evans wedi perfformio ei gân 'Dyddie Da' am ei blentyndod yn crwydro’i bentref yng Nghwm Gwendraeth y llynedd.

O "fynd i'r siop" i "brynu tip tops, hubba bubba a curlywurly" i fwyta "ffagots, tato, grefi" mae rhai o linellau'r gân wedi bod yn adloniant i bobl ar draws Cymru.

Ond ers hynny mae’r fideo wedi troi yn dipyn o ‘meme’, gyda phobl yn rhannu clipiau o'r gân a chreu lluniau gyda chapsiynau gwahanol arnynt.

"Nes i Noson Lawen fel haf dwetha' ac oni ddim yn siŵr pryd o'dd e mynd i ddod mas, a pan da'th e mas na oni'n meddwl 'na gyd bydde fe, bod fi ddim mynd i glywed dim byd mwy,” meddai.

"Ond ma'r ymateb wedi bod bach yn annisgwyl. Fi 'di bod yn chwerthin 'itha lot gyda ffrindie fi yn hala negeseuon neu tweets so lot fawr o chwerthin."

'Bach o laff'

Un esiampl o ddefnydd creadigol o’r gân oedd trydariad ar gyfrif S4C ar noson cystadleuaeth Cân i Gymru.

Roedd S4C wedi trydaru fideo o Dafydd yn canu'r llinell "mynd i'r siop, prynu tip tops, hubba bubba a curlywurly" gyda'r capsiwn 'Pwy sy'n dod â'r snacs heno?'

Cafodd Dafydd a'i ffrindiau lawer o hwyl yn darllen trydariadau y noson honno.

"O'dd hi'n noson Cân i Gymru ac oni mas gyda'n ffrind i ac oni'n cadw ca'l WhatsApp messages gan y'n ffrindie i yn dweud 'ma' hwn 'di cael ei tweeto, 'ma hwn 'di ca'l ei tweeto',” meddai.

"Ac wedyn nath ffrindie fi dweud 'ma' S4C 'di joino mewn nawr' ac oni itha 'waw reit okay'. Fi jyst yn gweld e'n hileriys i fod yn onest.

"Fi'n falch bod pobl yn mwynhau clipo fe lan i ga'l bach o laff gyda fe."

'Byth eto'

Byddai rhan fwyaf o wylwyr S4C yn adnabod Dafydd o'i rôl yn chwarae rhan Dylan ar y gyfres deledu Rownd a Rownd.

Ond mae hefyd yn rhan o fand sydd yn gwneud fersiynau o ganeuon poblogaidd, ac mae’n ysgrifennu ei ganeuon ei hun.

Er ei fod wedi perfformio ar Noson Lawen, bydd rhaid i gynulleidfa'r rhaglen ddisgwyl am amser hir cyn ei fod ar y llwyfan eto.

"Actor i fi first and foremost, geith y canu fod yn rhywbeth ar y sidelines, yn enwedig caneuon y'n hunai,” meddai.

"Sai'n credu nei di glywed fi'n canu cân fy'n hunan ar y teledu felna byth 'to."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.