Newyddion S4C

Undeb athrawon yr NEU yn canslo deuddydd o streicio wedi cynnig tâl newydd

10/03/2023
Unsplash

Mae undeb athrawon yr NEU wedi cyhoeddi na fydd ei aelodau'n streicio am ddeuddydd wythnos nesaf yn dilyn "trafodaethau ystyrlon" rhwng yr undeb a Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gynnig tâl newydd.

O ganlyniad, mae’r diwrnodau streicio a drefnwyd ar 15 a 16 Mawrth wedi’u gohirio, ac mae'r llywodraeth wedi croesawu'r penderfyniad.

Mewn datganiad nos Wener, dywedodd yr undeb fod y cynnig newydd yn cynnwys cyflog ychwanegol o 3% ar gyfer 2022/23 a dyfarniad cyflog 2023/24 a ddaeth i rym ar 1 Medi 2023 yn cael ei gynyddu i 5%.

Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi dweud yn wreiddiol mai 17 Mawrth oedd y dyddiad cau "ar gyfer darparu taliad yn ymarferol eleni" i athrawon, gan fod diwedd y flwyddyn ariannol yn agosáu. Ond dywedodd ddydd Gwener y byddai'n cynnig codiadau cyflogau tra bod trafodaethau'n parhau. 

Dywedodd Dr Mary Bousted a Kevin Courtney, Cyd-Ysgrifenyddion Cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am y modd adeiladol y maent wedi mynd ar drywydd datrysiad i’r anghydfod presennol ynghylch cyflogau.

"Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gyda’n gilydd, i frwydro yn erbyn yr argyfwng recriwtio a chadw a sicrhau bod mwy o bobl yn ymuno â’r proffesiwn ac yn aros yn y proffesiwn.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac mae hefyd wedi deall pwysigrwydd ariannu’r cynnig cyflog yn llawn. Maent hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda ni i fynd i’r afael â llwyth gwaith.”

Ychwanegodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru dros Undeb Addysg Genedlaethol Cymru: “Rydym wedi cael trafodaethau hir gyda Llywodraeth Cymru, ac wedi ceisio eglurder, nad oedd gennym ychydig wythnosau yn ôl. 

"Bydd y ffaith fod hwn yn gynnig wedi'i ariannu'n llawn yn rhyddhad i'n haelodaeth. Rydym yn dal yn siomedig nad oedd y Gweinidog yn gallu cynnig arian parod ar gyfer staff cymorth, ond o leiaf mae bellach yn cydnabod yr heriau llwyth gwaith yno.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r penderfyniad i atal streiciau. Mae hyn yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni a’r proffesiwn addysg.

“O’i gymryd ochr yn ochr â’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud wrth ddod â phecyn o fesurau ynghyd i leihau llwyth gwaith, credwn fod hwn yn gynnig cyflog da yr ydym yn gobeithio y gall aelodau ei gefnogi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.