Newyddion S4C

Galw am hyfforddiant gwrth-hiliaeth gorfodol i athrawon wedi i deulu symud o Gymru

Galw am hyfforddiant gwrth-hiliaeth gorfodol i athrawon wedi i deulu symud o Gymru

Y Byd ar Bedwar 13/03/2023

Mae mam i blentyn 14 oed a symudodd o Gymru o ganlyniad i fwlio hiliol yn galw am hyfforddiant gwrth-hiliaeth gorfodol i athrawon.

Symudodd Sally a’i theulu i Ben Llŷn yng Ngwynedd yn 2020, ond fe adawon nhw ddwy flynedd yn ddiweddarach oherwydd y bwlio hiliol yn Ysgol Botwnnog. 

Dydy hyfforddiant gwrth-hiliaeth ddim yn orfodol i athrawon ond mae adnoddau am ddim ar gael iddyn nhw. Mae Sally yn dadlau na fydd hiliaeth yn cael blaenoriaeth os nad yw’r hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw yn ymrwymo i wneud Cymru yn genedl gwrth-hiliaeth erbyn 2030 ond oherwydd ffigyrau cadarnhaol, does dim bwriad ganddynt i wneud yr hyfforddiant yn orfodol.

Image
Plant Sally
Mae Sally wedi dweud na fydd hi’n dychwelyd i ogledd Cymru eto er lles ei phlant

Mae Sally wedi dweud na fydd hi’n dychwelyd i ogledd Cymru eto er lles ei phlant.

Syniad gŵr Sally oedd symud i Wynedd gan ei fod wedi treulio amser yn yr ardal yn ystod ei blentyndod ac yn ei ddisgrifio fel “paradwys”.

Ond trodd paradwys yn hunllef pan ddywedodd merch Sally ei bod hi’n cael ei bwlio’n hiliol ar y bws adref o’r ysgol.

Dywedodd Sally wrth y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar: “Roedden nhw’n dweud yr ‘N-word".

"Tynnodd un bachgen lun o swastika ar ei law i'w ddangos iddi i wneud iddi deimlo’n ddiwerth."

Aeth Sally a’i gŵr i’r ysgol i gwrdd gydag uwch dîm yr ysgol ar ôl y digwyddiad. Roedden nhw wedi eu “ffieiddio” i glywed am yr hiliaeth ac fe gafodd y bwlis eu gwahardd o’r ysgol am ddeuddydd.

Dywedodd yr ysgol wrth y rhieni na fyddai’n digwydd eto ond o fewn cwpwl o fisoedd cafodd merch Sally ei bwlio unwaith eto gan ddisgybl arall.

Image
Celf plentyn Sally
Gwaith celf merch Sally

Daeth y bwlio hiliol i’r amlwg drwy waith celf merch Sally. 

Mae’r teulu yn honni bod y digwyddiad wedi cael ei guddio gan Ysgol Botwnnog ac nad oedd y digwyddiadau wedi cael eu recordio yn gywir.

“Doedd ganddyn nhw ddim tystiolaeth ddogfennol, felly roedd y recordio yn wael. Wnaethon nhw ddim dweud wrtha i amdano fe, roedden nhw’n ei guddio.” 

Mewn ymateb ar ran Ysgol Botwnnog fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod hiliaeth yn destun pryder mawr iddynt a’u bod nhw’n annog disgyblion i drafod achosion gyda’r ysgol. 

Fe ddywedon nhw hefyd bod polisïau clir mewn lle ar gyfer unrhyw ymddygiad o’r fath, sy’n gallu arwain at waharddiadau dros dro neu barhaol.

Yn y diwedd, symudodd y teulu o Gymru i ogledd Lloegr. 

Image
DARPL
Mae DARPL yn adnodd am ddim i holl weithlu addysg Cymru 

Fe wnaeth Cais Rhyddid Gwybodaeth i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddangos bod bron i 2,000 o ddigwyddiadau hiliol wedi cymryd lle mewn ysgolion ers 2020; ond mae elusennau wedi rhybuddio fod y ffigyrau mewn gwirionedd yn llawer uwch. 

Yn 2022, lansiodd y llywodraeth 'Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol', neu DARPL sydd yn darparu adnoddau a hyfforddiant am ddim i athrawon, ond nid yw’n orfodol.

Fe ofynnodd Y Byd ar Bedwar i holl ysgolion uwchradd Cymru faint o’u hathrawon sydd wedi cyflawni unrhyw hyfforddiant trwy DARPL. O’r ymatebion, roedd naw allan o 61 ysgol wedi defnyddio adnoddau DARPL.

Mae Sally wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i gadw’r hyfforddiant yn opsiynol gan ddweud y dylai ymarferion gwrth-hiliaeth gael eu blaenoriaethu.

“Wrth gwrs dydy athrawon ddim yn mynd i wneud yr hyfforddiant os nad yw e’n orfodol," meddai.

"Mae ganddyn nhw ddigon i'w wneud o ddydd i ddydd, felly os nad yw rhywbeth yn orfodol, dydyn nhw ddim yn mynd i’w wneud.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn orfodol, achos mae’n bwysig.”

Image
Molara Awen
Mae Molara Awen (chwith) wedi dechrau grwp yn Sir Benfro i ddathlu cymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yr ardal 

 

Mae Molara Awen, artist o Grymych, wedi sefydlu grŵp ‘Llwy Gariad’ i deuluoedd Du, Asiaidd neu o Leiafrifoedd Ethnig. Mae hi’n dweud bod hi’n bwysig i athrawon ddeall effaith hiliaeth.

Dywedodd wrth Y Byd ar Bedwar: “Dwi’n meddwl os byse nhw’n ‘neud anti-racism training, bydden nhw’n gweld y problemau, ond nawr dydyn nhw ddim yn gweld y problemau am y plant, ac maen nhw ddim yn gweld y problemau yn y culture yn yr ysgol ac yn y coleg.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “O ganlyniad i’r ystadegau diweddaraf ymgysylltu cadarnhaol, does dim cynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno anghenion gorfodol” ar gyfer DARPL.

“Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i wneud dysgu am hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrif Ethnig yn orfodol gyda chwricwlwm newydd i Gymru.”

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ddydd Llun y bydd grantiau o hyd at £5000 yr un ar gael, i geisio annog pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig i fynd i ddysgu.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ddydd Llun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.