Keir Starmer yn addo grymoedd economaidd newydd i Gymru
Bydd Keir Starmer yn addo grymoedd economaidd newydd i Gymru yn ei araith yng nghynhadledd Gymreig y Blaid Lafur ddydd Sadwrn.
Pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf fe fyddai grymoedd ariannol yn cael eu symud o San Steffan i Lywodraeth Cymru, meddai.
Byddai hynny’n sicrhau fod gan Gymru yn gallu i reoli ei “ffawd economaidd”, meddai arweinydd y Blaid Lafur.
“Heddiw gallaf gyhoeddi y bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn dychwelyd grymoedd i Gymru dros ei ffawd economaidd,” meddai.
“Bydd gallu Llywodraeth Cymru i reolai cronfeydd arian strwythurol yn dychwelyd.
“Mae’n amser i Gymru gymryd rheolaeth yn ôl.”
‘Sgandal’
Yn y gorffennol roedd gan Lywodraeth Cymru rôl wrth benderfynu sut i wario nawdd o gronfeydd ariannol yr Undeb Ewropeaidd.
Ond yn sgil Brexit disodlwyd cronfa ariannol yr UE gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn penderfynu sut i wario’r arian hwnnw yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Keir Starmer fod hynny yn “sgandal”.
“Defnyddiodd y Ceidwadwyr Brexit er mwyn cymryd rheolaeth yn ôl, nid o’r Undeb Ewropeaidd ond o Gymru,” meddai.
“Dim ond Llafur fydd yn datganoli grym economaidd allan o San Steffan.
“Dylai’r penderfyniadau ynglŷn â chreu cyfoeth yn ein cymunedau gael eu cymryd gan bobol sydd yn gyfrifol am y cymunedau rheini.”
Llun: Keir Starmer gan Stefan Rousseau / PA.