Newyddion S4C

PA

Canfod dynes a dau fachgen yn farw yn Llundain

NS4C 10/03/2023

Mae dynes a dau fachgen wedi eu canfod yn farw mewn tŷ yn ne-ddwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i Mayfield Road yn ardal Belvedere am 23:50 ddydd Iau.

Mae'r unigolion fu farw wedi eu henwi gan yr heddlu.

Roedd Nadja De Jager yn 47 oed, a'i meibion Alexander yn naw oed, a Maximus yn saith oed.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ollie Stride o Heddlu'r Met: “Mae hwn yn achos trist iawn ac rydym yn parhau i sefydlu’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig hwn.

“Mae ein meddyliau heddiw yn fawr iawn gyda’r teulu wrth iddyn nhw frwydro i ddod i delerau â’u colled a gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser hynod anodd hwn.”

Disgrifiodd Marion Beazer, sy’n byw ar Mayfield Road, farwolaethau’r ddau fachgen ifanc fel “trasiedi lwyr”.

Nid yw’r heddlu yn edrych am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.