Sgoriwr ceisiau mwyaf toreithiog y Scarlets, Andy Hill, wedi marw
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi bod Andy Hill, eu sgoriwr ceisiau mwyaf toreithiog erioed, wedi marw yn 78 oed.
Chwaraeodd yr asgellwr 453 o gemau dros 12 tymor ar gyfer Clwb Rygbi Llanelli gan sgorio 311 o geisiau.
Enillodd 2,604 o bwyntiau dros ei glwb pan oedd cais werth tri phwynt yn unig - dim ond y Llew Stephen Jones sydd wedi sgorio mwy.
Roedd yn aelod o'r tîm a faeddodd y Crysau Duon yn 1972.
Ni gafodd erioed y cyfle i chwarae dros Gymru.
'Camp'
Dywedodd Cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack: “Roedd Andy Hill yn ffigwr mytholegol ar Barc y Strade, chwaraewr na fydd ei record sgorio ceisiau byth yn cael ei churo.
"Mae chwarae mwy na 450 o gemau i glwb yn gamp anhygoel.
"Roedd yn ffefryn mawr gyda ffyddloniaid Parc y Strade a bydd, wrth gwrs, hefyd yn cael ei gofio am fod yn rhan o’r tîm a faeddodd y Crysau Duon yn ’72.
“Mae pawb yn y clwb yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Andy ar yr amser trist hwn.”
Llun Andy Hill gan y Scarlets.