Brawd y Brenin y Tywysog Edward yn cael teitl Dug Caeredin

Mae'r Brenin wedi rhoi teitl Dug Caeredin i'w frawd, y Tywysog Edward.
Cyhoeddodd Palas Buckingham ddydd Gwener y byddai'r Tywysog Edward yn etifeddu teitl ei ddiweddar dad, y Tywysog Philip, a fu farw yn 2021.
Derbyniodd y Tywysog Philip y teitl ym 1947 cyn ei briodas â'r Dywysoges Elizabeth ar y pryd, a wnaeth hefyd dderbyn y teitl cyn iddi gael ei gwneud yn Frenhines ym 1952.
Mewn datganiad, dywedodd Palas Buckingham fod "Ei Mawrhydi y Brenin yn falch o roi'r teitl 'Dug Caeredin' i'r Tywysog Edward, Iarll Wessex a Forfar, ar achlysur ei benblwydd yn 59 oed".
"Mae Dug a Duges newydd Caeredin yn falch o barhau gyda gwaith y Tywysog Phillip o annog cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir er mwyn gwireddu eu llawn botensial," meddai'r llefarydd.