
Ysgolion ar gau yng Nghymru wedi eira mawr fore Gwener

Mae ysgolion a ffyrdd ar gau mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru wedi eira mawr bore 'ma.
Mae o leiaf 250 o ysgolion ar draws y gogledd a'r canolbarth eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn cau heddiw yn sgil yr eira, ac mae mwy na 30 o ysgolion Gwynedd, 50 yn Sir Ddinbych, 50 yn Wrecsam, 57 ym Mhowys a 20 yn Sir Conwy wedi cau.
Cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ddydd Iau y byddai holl ysgolion y sir yn cau ddydd Gwener oherwydd yr amodau.
Roedd rhan o'r A55 yn Sir y Fflint, rhwng Cyffordd 36 a Chyffordd 35 go gyfeiriad y gorllewin, ar gau ben bore, yn ogsytal â nifer o ffyrdd gwledig.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i'r rhew ac eira achosi “trafferthion sylweddol” ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a Phowys.
Mae'r eira eisoes wedi dechrau dadmer yn ystod y dydd ond mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld mai heno fydd noson oera'r flwyddyn hyd yma wrth i'r tymheredd syrthio i -11 gradd Celsius.
Yng ngogledd-orllewin Lloegr, fe aeth gyrwyr yn sownd yn yr eira ar y M62 dros nos ac roedd gyrwyr yno yn wynebu tair awr o oedi ben bore.

Roedd rhybudd tywydd oren wedi bod mewn grym ers 12:00 ddydd Iau a bydd yn parhau tan 09:00 fore Gwener.
Roedd rhybudd oren mewn grym yn rhan o Wynedd, rhan o Bowys, yn ogystal â rhannau o Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd posibilrwydd y gallai rhwng 10-20cm o eira ddisgyn mewn sawl lle, gyda hyd at 30cm mewn rhai mannau. Roedd mwy na 20cm wedi syrthio yng Nghapel Curig ddechrau'r bore.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew o'r newydd i rannau o'r de a'r canolbarth ar gyfer bore dydd Gwener.
Fe fydd y siroedd canlynol yn cael eu heffeithio gan y rhybudd.
- Blaenau Gwent
- Castell-nedd Port Talbot
- Powys
- Torfaen
- Merthyr Tudful
- Caerffili
- Sir Fynwy
- Rhondda Cynon Taf
Mae'r tywydd hefyd wedi bod yn effeithio ar weddill y DU, gyda gyrrwyr wedi eu dal ar yr M62 am oriau yn sgil yr eira trwm.
Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Alex Burkill, mai un rhan o orllewin Yr Alban fyddai'r unig le heb ei effeithio gan law ac eira trwm dros y 24 awr nesaf.
Ychwanegodd fod y tywydd gwaethaf i'w ddisgwyl yng ngogledd-orllewin Cymru a gogledd Lloegr, lle mae "hyrddiadau o 50mya" yn cwrdd â "30-40cm o eira".

Ysgolion
Bydd pa ysgolion sydd ar gau yn cael ei gyhoeddi ar wefannau y cynghorau unigol. Mae modd eu gwirio isod:
- Abertawe- https://www.abertawe.gov.uk/ysgolionargau?lang=cy
- Sir Benfro https://www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-sydd-ar-gau
- Blaenau Gwent- https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/school-closures/
- Bro Morgannwg- https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Premises-and-School-Closure-Updates.aspx
- Caerdydd- https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Pages/default.aspx
- Caerffili- https://www.caerffili.gov.uk/services/schools-and-learning/schools,-term-dates-and-closures/check-if-your-school-is-closed?lang=cy-gb
- Casnewydd- https://www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Schools/Schools.aspx
- Castell-Nedd Port- Talbot- https://www.npt.gov.uk/1611
- Ceredigion- https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/gwybodaeth-am-ysgolion/
- Conwy- https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Education-and-Families/School-Closures.aspx
- Sir Ddinbych- https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/cau-ysgolion-mewn-argyfwng.aspx
- Y Fflint- https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/SchoolClosures.aspx
- Sir Fynwy- https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/2022/02/ysgolion-ar-gau/
- Sir Gaerfyrddin- https://ysgolionargau.sirgar.llyw.cymru
- Gwynedd- https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/digwyddiadauargyfwng
- Merthyr Tudful- https://schoolclosures.merthyr.gov.uk
- Pen-y-bont ar Ogwr- https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/cau-ysgolion/
- Powys- https://cy.powys.gov.uk/ysgolionargau
- Rhondda Cynon Taf- https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/Schooltermdatesinsetdaysandemergencies/Emergencyclosures.aspx
- Torfaen- https://www.torfaen.gov.uk/cy/CrimeEmergencies/EmergencyManagement/Emergencies-severeweatherwarnings/Severe-Weather.aspx
- Wrecsam- https://www.wrecsam.gov.uk/school-status
- Ynys Môn- https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion-wedi-cau.aspx
Prif Lun: Nant Peris gan Llinos Haf Pritchard