Newyddion S4C

Desgiau mewn ysgol

£60 miliwn i wneud ysgolion a cholegau Cymru yn fwy cynaliadwy

NS4C 10/03/2023

Bydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn derbyn cyllid o £60 miliwn i sicrhau bod adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid o £50 miliwn i ysgolion a £10 miliwn i golegau addysg bellach.

Bydd yr arian newydd yn helpu ysgolion a cholegau gyda effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio.

Mae’r gwaith sy’n cael ei ariannu yn cynnwys ailosod toeau, gwaith i wneud systemau gwresogi ac awyru yn garbon isel, a systemau trydanol ynni effeithlon, gan gynnwys goleuadau LED.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae Cymru wedi gwneud ymrwymiad cryf iawn i fod yn fwy cynaliadwy a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol.

"Bydd yr arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn galluogi rhaglen gynhwysfawr o welliannau cynaliadwy ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru.

“Mae’n bwysig bod adeiladau ysgolion yn hwyluso’r broses o leihau defnydd ynni ac o ddatgarboneiddio yn unol â’n Strategaeth Sero Net.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.