Newyddion S4C

Talacharn

Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid gosod premiwm treth cyngor ar ail-dai

NS4C 09/03/2023

Mae Cyngor Sir Gâr wedi pleidleisio o blaid gosod premiwm treth cyngor ar ail dai. 

Fe fydd rhaid i berchnogion ail dai neu dai sydd wedi bod yn wag am un i ddwy flynedd dalu premiwm treth cyngor o 50% o fis Ebrill 2024 ymlaen. 

Mae'r premiwm yn cynyddu i 100% ar gyfer tai sydd wedi bod yn wag am ddwy i bum mlynedd ac yn codi i 200% ar gyfer tai sydd wedi bod yn wag am hirach na phum mlynedd. 

Yn ôl yr aelodau cabinet ar gyfer adnoddau, y Cynghorydd Plaid Cymru Alun Lenny, mae gan Sir Gâr 800 o ail dai a 1,800 o dai sydd wedi bod yn wag am fwy nag un flwyddyn. 

Dywedodd y gallai gosod premiwm treth cyngor godi £3m ar gyfer y cyngor gan ychwanegu bod ail dai wedi cael effaith negyddol ar ardaloedd yn y sir. 

Ceisiodd rhai cynghorwyr i gyflwyno newidiadau i'r polisi, gan gynnwys arweinydd y grŵp Lafur, y Cynghorydd Rob James, a wnaeth ofyn i dai ar dir amaethyddol a thai haf 'hunanarlwyo' i gael eu heithrio o'r premiwm. 

Ond fe wnaeth arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Darren Price, wrthod unrhyw newidiadau, gan ddweud mai gosod premiwm ar dreth cyngor oedd y "peth moesol cywir" i wneud. 

Er hyn, dywedodd un perchennog o dŷ gwag yn Llanelli wrth y gwasanaeth gohebiaeth democratiaeth leol fod y cyngor wedi cymeradwyo "lladrata cyfreithiol" wrth osod y premiwm.  

Dywedodd y fenyw ei bod yn ystyried gwerthu'r tŷ gan fod "y balans bellach er lles tenantiaid."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.