‘Angen dad-ganoli' gwasanaethau fasgiwlar y gogledd

‘Angen dad-ganoli' gwasanaethau fasgiwlar y gogledd
Mae galw ar y Gweinidog Iechyd newydd i wyrdroi canoli gwasanaethau fasgiwlar y gogledd, wedi adroddiad gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr bod y ffocws wedi ei “golli rywfaint” ar ôl canoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag unedau llai ym Mangor a Wrecsam.
Dywed Aelod Senedd Arfon, Siân Gwenllian wrth raglen Newyddion S4C, bod angen i Eluned Morgan “i ymyrryd ar frys ac i ddechrau ail-sefydlu'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd” gan “bod yr ailstrwythuro heb weithio.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi'n disgwyl i bob claf allu cael mynediad i driniaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i adolygu’r gwasanaeth.
Wedi cwynion gan ofalwyr, cleifion a gweithwyr, fe ofynnodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr i adolygu gwasanaethau fasgiwlar, sydd yn delio gyda chylchrediad y gwaed o amgylch y corf.
Mae’r adroddiad yn codi nifer o bryderon: Un canfyddiad yw bod gormod o gleifion yn cael eu hanfon at yr ‘hyb’ yn Ysbyty Glan Clwyd, hyd yn oed lle gallai’r rheiny fod yn cael eu trin yn fwy lleol.
Roedd hefyd diffyg gwelyau arbenigol yng Nglan Clwyd a dryswch ynghylch argaeledd llawfeddygon.
Cafwyd 22 o argymhellion i wella i gyd, naw o’r rheiny yn “argymhellion brys er mwyn mynd i’r afael a risg diogelwch cleifion”.
Y flaenoriaeth yw sefydlu gweithdrefnau i sicrhau triniaeth effeithiol ac amserol i gleifion.
'Ymyrryd ar frys'
Ond mae yn ôl yr AS Siân Gwenllian, mae angen i’r Gweinidog Iechyd fynd ymhellach.
“Efo trydydd adroddiad yn dweud yr un stori, dwi’n meddwl bod angen tynnu llinell o dan yr hyn sydd wedi digwydd ac ail-sefydlu'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd, cydnabod nad ydy’r ail-drefnu yma wedi gweithio a mynd nôl at y sefyllfa oedd gynnon ni cyn hyn i gyd ac rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd newydd Eluned Morgan i ymyrryd ar frys ac i ddechrau ail-sefydlu’r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd.”
Fe wnaeth un gyfreithwraig ddatgelu wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi’n poeni y gallai'r ailstrwythuro fod yn ffactor ym marwolaeth claf oedd dan ofal gwasanaethau fasgiwlar ysbyty Glan Clwyd yn 2019.
Dywedodd Eleri Griffiths o gwmni Watkins & Gunn: “Ar hyn o bryd ni’n gweithredu dros deulu yn anffodus nath golli rhywun yn Ysbyty Glan Clwyd ac oedd dan ofal y gwasanaethau fasgiwlar.
Ar hyn o bryd, mae’r mater gyda’r crwner a bydd e’n edrych os oes cysylltiad rhwng y farwolaeth yma a beth sydd yn digwydd o fewn gwasanaethau fasgiwlar ar hyn o bryd. Ni hefyd wedi gofyn i’r crwner edrych ar faterion ehangach hefyd.
“Ni’n gwbod bod aelodau’r cyhoedd hefyd yn bryderus. Mae straeon wedi bod yn y cyfryngau o’r blaen, mae problemau wedi bod yna, ni’n gwbod bod y cyngor iechyd cymuned wedi ysgrifennu adroddiad am y problemau, ni nawr yn gwybod bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi ysgrifennu adroddiad annibynnol hefyd. Mae’r teulu eisiau atebion a gwbod pam nath aelod o’u teulu nhw farw.”
'Siomedig dros ben'
Ddwy flynedd yn ôl, ymddiswyddodd Bethan Russell Williams o fwrdd Betsi Cadwaladr am fod ganddi bryderon am ail-strwythuro’r gwasanaeth fasgiwlar. Mae hi hefyd yn dweud bod yr adroddiad yn brawf bod canoli’r gwasanaeth fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn fethiant.
“Mae 'na bedair tudalen o argymhellion .... mae hynny'n deuthach chi fod 'na ryw beth mawr o'i le. Mae'r rhagolygon yn giami iawn faswn i'n deud i gleifion fasgiwlar yng ngogledd Cymru os mai dyna'r gwasanaeth gorau y gellid ei gynnig gan uned newydd sbon .... siomedig dros ben”.
Mae crwner nawr yn ymchwilio i bryderon bod cysylltiad rhwng marwolaeth claf yn Ysbyty Glan Clwyd a’r gofal a roddwyd iddo dan y gwasanaeth fasgiwlar newydd.
'Angen gweithredu ar frys'
Mewn datganiad, dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr: “Mae’r adolygiad yn ailadrodd y natur frys y mae’n rhaid i ni weithredu i sefydlu model priodol prif ganolfan a changhennau er mwyn osgoi peryglu diogelwch cleifion, a oedd yn risg arwyddocaol ar y pryd.
Rydym yn falch bod yr ymrwymiad llethol gan bawb oedd yn rhan o wella’r gwasanaeth wedi cael ei gydnabod a bod “sylfaen rhagorol” yn ei le i barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru.
“Rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith, yn enwedig i barhau i ddatblygu ein llwybrau ar gyfer cleifion fasgwlaidd a diabetig fel y gallwn ddarparu’r canlyniadau gorau yn y lle iawn.
“Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd priodol ym mhob un o’r tri ysbyty llym yng Ngogledd Cymru. Mae gwaith ar y gweill i gryfhau darpariaeth gwasanaethau yn ein safleoedd cangen, yn ogystal â gwaith tîm drwy ein rhwydwaith fasgwlaidd.
“Fel mae’r adroddiad yn cydnabod, mae cynnydd eisoes wedi’i wneud i ymdrin â llawer o’r gwelliannau y tynnwyd sylw atynt. Mae cynrychiolwyr cleifion a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn dal i gymryd rhan yn ein gwaith i barhau â’r gwelliannau hyn, ac edrychwn ymlaen at ymdrin yn gyflym â’r materion a godwyd yn yr adolygiad.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru “Ry’n ni’n falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i adolygu’r gwasanaeth.
“Ry’n ni’n disgwyl i’r bwrdd iechyd alluogi pob claf gael mynediad i driniaethau a chefnogaeth.”