Newyddion S4C

Louis Rees-Zammit ar y fainc wrth i Gymru herio'r Eidal

09/03/2023
Louis Rees-Zammit

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm Cymru a fydd yn herio'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Louis Rees-Zammit ar y fainc a Rhys Webb yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad.

“Fe wnaethon ni drafod rhoi Louis Rees-Zammit yn gefnwr,” meddai Warren Gatland.

“Ond dyw e heb chwarae ryw lawer o rygbi eto ar ôl dod yn ôl o anaf cymharol hir gyda'i bigwrn.

“Ro’n i’n teimlo ei fod e'n dod oddi ar y fainc a gallai gael effaith eithaf pwysig.”

Bydd y ddau dîm yn ysu am osgoi’r llwy bren wedi iddyn nhw fethu ag ennill yr un gêm hyd yma.

Collodd Cymru yn erbyn yr Azzurri yn Stadiwm y Principality y llynedd.

Fe enillodd Yr Eidal gyda chic olaf y gêm, gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth ers 2015.

Collodd Cymru i Loegr yng ngêm ddiwethaf y Chwe Gwlad, ond roedd y perfformiad yn well na'r rhai blaenorol yn erbyn Yr Alban a'r Iwerddon.

Y tîm

15. Liam Williams (Rygbi Caerdydd – 83 o gapiau)
14. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 47 o gapiau)
13. Mason Grady (Rygbi Caerdydd – 1 cap)
12. Joe Hawkins (Y Gweilch – 4 o gapiau)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 5 o gapiau)

10. Owen Williams (Y Gweilch – 5 o gapiau)
9. Rhys Webb (Y Gweilch – 38 o gapiau)

1. Wyn Jones (Scarlets – 46 o gapiau
2. Ken Owens (Scarlets – 89 o gapiau) captain
3. Tomas Francis (Y Gweilch – 69 o gapiau)
4. Adam Beard (Y Gweilch – 44 o gapiau)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 4 o gapiau)
6. Jac Morgan (Y Gweilch – 8 o gapiau)
7. Justin Tipuric (Y Gweilch – 91 o gapiau)
8. Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd – 98 o gapiau)

Eilyddion
16. Scott Baldwin (Y Gweilch – 36 o gapiau)
17. Gareth Thomas (Y Gweilch – 18 o gapiau)
18. Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd – 48 o gapiau)
19. Rhys Davies (Y Gweilch – 1 cap)
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers – 7 o gapiau)
21. Tomos Williams (Rygbi Caerdydd – 43 o gapiau)
22. George North (Y Gweilch – 111 o gapiau)
23. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby – 23 o gapiau)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.