Newyddion S4C

llun ffeil

Rwsia'n cynnal ymosodiad sylweddol gyda thaflegrau ar ddinasoedd yn Wcráin

NS4C 09/03/2023

Mae lluoedd Rwsia wedi cynnal ymosodiad sylweddol gyda thaflegrau ar diriogaeth Wcráin, gan ganolbwyntio ar isadeiledd ynni'r wlad.

Yn ôl adroddiadau mae o leiaf naw o bobl wedi marw yn yr ymosodiad diweddaraf, oedd yn canolbwyntio ar y brifddinas Kyiv, dinas Kharkiv a phorthladd Odesa.

Dywedodd yr Arlywydd Volodomyr Zelensky fod 10 rhanbarth wedi eu targedu yn yr ymosodiadau, gan ddisgrifio'r hyn ddigwyddodd fel ymosodiad oedd yn ceisio bygwth pobl ei wlad.

Yn ôl datganiad gan Weinyddiaeth Amddiffyn Wcráin, fe ymosododd lluoedd Rwsia gan danio 81 o daflegrau, wyth o ddronau Shahed a 34 o daflegrau Cruise.

Galwodd y Weinyddiaeth am ragor o gymorth gan wledydd y gorllewin i ddarparu system amddiffyn yn erbyn ymosodiadau o'r awyr.

Ymysg y targedau gafodd eu taro oedd gorsaf niwclear Zaporizhzhia, ac roedd cartrefi ar draws y wlad heb drydan yn dilyn yr ymosodiad diweddaraf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.