Streic gweithwyr ambiwlans ddydd Gwener wedi ei gohirio

Mae undeb Unite wedi gohirio streic gweithwyr ambiwlans ddydd Gwener.
Mewn neges ar Twitter dywedodd yr undeb eu bod nhw’n bwriadu parhau â thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
Roedd gweithwyr ambiwlans undeb Unite wedi bwriadu mynd ar streic fel rhan o anghydfod dros dâl ac amodau gwaith.
Roedden nhw ac undeb y GMB eisoes wedi canslo streic ddydd Llun yr wythnos hon.
“Yn dilyn trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi penderfynu gohirio’r streic ambiwlansys dydd Gwener yma,” medden nhw.
“Rydyn ni’n gwneud cynnydd ac rydyn ni yn gohirio gweithredu er mwyn caniatáu i ni barhau â'r trafodaethau hyn.
“Bydd mwy o ddiweddariadau yn dilyn yn fuan.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni’n croesawu oedi'r streic ddydd Gwener tra bod sgyrsiau gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur yn parhau."