Cyhoeddi murlun newydd ar gyfer maes parcio yng Nghaernarfon
Mae murlun newydd wedi ei gyhoeddi a fydd yn ymddangos ar faes parcio yng Nghaernarfon.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd y murlun newydd yn dathlu bywyd a hanes yr athrawes forwrol Ellen Edwards.
Roedd Ellen Edwards yn ffigwr arloesol yn y diwydiant morwrol, wedi iddi ddysgu dros 1,000 o forwyr sut i hwylio yn ystod y 19eg ganrif yn ei hysgol forwrol yng Nghaernarfon.
Fe wnaeth y cyngor y cyhoeddiad am y murlun er mwyn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Cafodd y darn o gelf ei greu gan yr artist Cymreig Teresa Jenellen. Bydd i’w weld ar wal maes parcio Doc Fictoria Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon gyda gwaith yn dechrau ar y murlun dros yr wythnosau nesaf.
“Roedd Ellen Edwards yn arloeswraig,” meddai artist y murlun, Teresa Jenellen.
“Nid yn unig y llwyddodd ym myd morwriaeth a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, ond fe ragorodd.
“Cafodd ei chydnabod a’i pharchu, gyda llawer o’i myfyrwyr yn cyflawni gyrfaoedd nodedig eu hunain.
“Yn hytrach na phortread, mae'r gwaith yma yn ddathliad o lwyddiant Ellen Edwards a'r ysbrydoliaeth rhoddwyd, nid yn unig i’r dynion a ddysgwyd i forwyo ar y pryd, ond hefyd, ac efallai yn bwysicach, i’r merched a oedd yn ei gwylio ac yn dysgu amdani ar hyd y degawdau.
“Ceisiais fynegi’r teimlad o edrych, i’r gorwel a thu hwnt, gyda phwrpas a gobaith.”
‘Diolchgar’
Dyma’r cyntaf o sawl gosodwaith celf sydd ar droed yn y dref yn rhan o brosiect newydd Canfas gan Galeri Caernarfon.
Y nod yw ymgorffori hunaniaeth pobl Caernarfon mewn llecynnau gwag ac anghofiedig yn y dref.
Bydd y gofodau hyn yn troi’n ganfasau a fydd yn dehongli straeon, atgofion a chwedlau mewn ffordd greadigol, meddai’r trefnwyr.
Ariennir y prosiect gan Galeri Caernarfon ac Arloesi Gwynedd Wledig.
Dywedodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon: “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am eu cymorth a’u cydweithrediad parod i wireddu’r gwaith celf gyntaf i’w osod yng nghanol y dref yn rhan o brosiect Canfas.
“Mae gallu cofnodi cyfraniad Ellen Edwards efo gwaith celf o’r safon yma yn ffordd deilwng o gychwyn y prosiect yn Noc Fictoria.
“Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r swyddogion perthnasol yn Ffiwsar a Menter Môn am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd i staff yn Adra am eu help efo’r cynllun ym Mro Seiont sydd wrthi’n cael ei wireddu ar yr un pryd a’r prosiect yma.”
Llun: Brasfodel o’r darlun o Ellen Edwards fydd yn cael ei osod ar wal maes parcio Doc Fictoria, Caernarfon.