Dŵr y ddaear yn hŷn na’r haul ac wedi dod o gomed rewllyd medd gwyddonwyr

Mae dŵr y ddaear yn hŷn na’r haul ac wedi dod o asteroid neu gomed rewllyd medd gwyddonwyr.
Mae’r ymchwil newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn academaidd Nature yn awgrymu bod dŵr y ddaear wedi teithio yma o’r gofod.
Dywedodd John J Tobin o Arsyllfa Seryddiaeth Radio Genedlaethol yr Unol Daleithiau bod y “dŵr yng nghysawd yr haul yn dod o gyfnod cyn yr haul”.
Llwyddodd y gwyddonwyr i ddadansoddi cyfansoddiad cemegol seren V883 Orionis sydd yng nghytser Orion.
Mae seren V883 sydd 1,300 blwyddyn golau o’r ddaear yn ymddangos i ni ar ffurf proto-seren sy’n ddisg o nwy a llwch.
Roedd gwyddonwyr yn gallu adnabod y dŵr nwyol ar ymyl allanol y ddisg.
“Rydyn ni’n gwybod lle mae’r dŵr rŵan ond rydan ni’n ceisio olrhain ei siwrne yn ôl at ei fan cychwyn,” meddai John J Tobin.
“Mae gyda ni bellach gadwyn sy’n arwain yn ôl ar draws y gofod at broto-sêr drwy gyfrwng comedau.”
Llun: Comed yn bwrw'r ddaear. Llun gan NASA (CC BY 2.0).