Newyddion S4C

 Naveena, Khadiza ac Ibrahim Mosabbir

'Dwi’n byw dau fywyd': Anawsterau cydbwyso bod yn Gymreig a Bengali

Hansh 08/03/2023

Mae aelodau o deulu Bangladeshi sy’n byw yn Aberteifi wedi trafod yr anawsterau o ddilyn traddodiadau Bengali yng ngorllewin Cymru.

Mewn rhaglen ddogfen materion cyfoes gan ITV Cymru i Hansh ac S4C, mae Naveena, Khadiza ac Ibrahim Mosabbir yn trafod sut brofiad oedd cael eu magu yn y gorllewin.

Mae’r tri o’r chwe phlentyn wedi cael eu magu’n siarad Cymraeg, Bengali a Saesneg yn eu bywydau pob dydd, ond mae hynny wedi arwain at rai sylwadau yn lleol. 

Dywedodd Naveena, yr hynaf o’r chwech: “Mae yna ficroymosodiadau bob dydd. Dyw pobl ddim yn gwybod eu bod nhw’n ei wneud e.

“Dwi wedi cael sylwadau fel ‘P*ki’, ond dwi’n Bangladeshi. Pam fod hynny’n broblem anyway?

“Pan dwi’n dweud wrth bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, fy mod i’n siarad Cymraeg - maen nhw’n dweud ‘you’re putting us to shame, you’re putting me to shame’, - pam, achos fi’n frown?

“Ces i fy ngeni yma. Felly, pam fod yna broblem gyda fi’n siarad Cymraeg?”

Fodd bynnag, nid Naveena yw’r unig un sydd wedi profi microymosodiadau a hiliaeth wrth fyw yng Nghymru.

Dywedodd Khadiza, y 4edd ferch: “Doedd hi ddim yn hawdd tyfu lan yma fel lleiafrif ethnig yn y 2000au, doedd hi ddim yn hawdd o gwbl.

“Dwi’n cofio un profiad, roedd plant yn yr ysgol yn dweud, ‘ti’n frown, dwyt ti ddim yn gallu chwarae gyda ni, achos rwyt ti’n wahanol’.”

Image
Teulu Khadiza

 

Mae eu brawd Ibrahim hefyd wedi cael profiadau hiliol, ond yn gweld ei brofiadau o bersbectif gwahanol

“Rydw i’n gwybod, pryd ddaeth fy nhad i Aberteifi dros 45 mlynedd yn ôl, roedd rhaid iddo fe a’m hewythrod ddal eu tir. Roedden nhw’n bobl hollol wahanol, fel estroniaid yn dod - gwahanol fyd,” meddai.

 “Roedd hi’n galed iddyn nhw - maen nhw’n dweud wrthom ni pa mor lwcus ydyn ni.”

Er bod y teulu yn byw yng Nghymru, maen nhw’n dal i gefnogi’r syniad o briodas wedi’i threfnu fel sy’n draddodiadol yn ne-ddwyrain Asia.

Mae hyn yn broblem ddiweddar i Naveena wrth iddi ddewis a yw hi eisiau priodi i gadw ei theulu yn hapus neu ddilyn llwybr ei hun.

“Mae pawb eisiau i mi briodi, does dim opsiwn gen i nawr,” meddai.

“Dwi eisiau bod yn fos, dwi eisiau bod yn fos ar ben fy hun.  Bydda i’n ei wneud e - dwi'n gwybod bod llawer o bwysau, llawer o drawma a llawer o ddisgwyliadau.”

Er hyn, mae yna bwysau gwahanol ar Ibrahim fel yr unig fachgen yn y teulu.

Dywedodd: “Mae hi’n gyfrifoldeb arna’i i helpu fy nheulu i, fel mam a dad a’m chwiorydd i yn y dyfodol. Mae angen i mi gamu ymlaen a'u helpu mewn unrhyw sefyllfa.

“Dydw i ddim yn siŵr os dwi eisiau priodas wedi’i threfnu - ma hi’n ystrydeb hen iawn.”

Mae gan Khadiza gynlluniau i fod yn athrawes, a mae hi’n hoffi’r syniad o briodi.

“Dwi’n credu ‘mod i’n mynd i gael priodas wedi’i threfnu i fod yn onest. Dwi’n ymddiried yn mam a dad. Mae hi’n eithaf cyffrous i fi,” meddai.

Mae'r rhaglen ddogfen ar gael i'w gwylio ar YouTube Hansh: https://www.youtube.com/watch?v=Gcweln0jr_8

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.