Eira Mawrth: Ysgolion ar gau yn y de a'r de orllewin
Eira Mawrth: Ysgolion ar gau yn y de a'r de orllewin

Mae eira wedi taro rhannau o'r de a'r de orllewin fore Mercher gan orfodi nifer o ysgolion i gau.
Mae rhai ysgolion yn siroedd Caerffilli, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi cyhoeddi eu bod ar gau.
Daeth y rhybudd ar gyfer rhai ardaloedd yn y de a'r gorllewin i rym am 00:00 fore Mercher. Ac mae rhybudd am eira trwm mewn ambell ardal rhwng dyddiau Iau a Gwener
Mae yna rybuddion y gall yr eira achosi trafferthion ar y ffyrdd ac oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bu'n rhai i faes awyr Bryste gau am gyfnod fore Mercher. Mae'r safle bellach wedi ail agor. Ond mae'r maes awyr yn rhybuddio fod y tywydd wedi amharu ar eu gwasanaethau.
Yng Nghymru, dywedodd y Swyddfa Dywydd fod posibilrwydd y gallai'r eira effeithio ar gyflenwadau pŵer, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.
Mae'r rhybudd ar gyfer y siroedd canlynol ddydd Mercher.
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn arall am eira sy'n ymestyn ymhellach tua'r gogledd, a fydd yn dod i rym fore Iau. Gallai fwrw eira'n drwm mewn ambell ardal, yn ôl y swyddfa.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 07:00 fore Iau tan 14:00 brynhawn Gwener ar gyfer y siroedd canlynol
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Sir Fynwy
- Powys
- Wrecsam
Llun: Dylan Morris