Newyddion S4C

Aelodau'r RMT yn rhoi'r gorau i streicio

07/03/2023
Undeb yr RMT

Mae undeb rheilffyrdd yr RMT wedi cyhoeddi nos Fawrth na fydd gweithwyr Network Rail yn streicio. 

Maen nhw wedi gohirio unrhyw weithredu ar ôl derbyn cynnig newydd yn ymwneud â chyflogau.

Roedd aelodau'r undeb i fod i streicio ar 16 Mawrth.

Mae disgwyl y bydd trafferthion i deithwyr bryd hynny gan fod gweithwyr o gwmniau tren eraill yn bwriadu streicio. Ond mae'n bur debyg y bydd penderfyniad aelodau'r RMT i beidio streicio, yn lleddfu'r trafferthion hynny.   

Dywedodd llefarydd ar ran undeb yr RMT : " Mae'r Pwyllgor Gweithredol wedi gwneud penderfyniad sy'n golygu na fydd streiciau, ar ol i'r cyflogwr gynnig pecyn cyflog newydd." 

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod y cyhoeddiad yn rhyddhâd i deithwyr.  

 

 

      

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.