Canran uwch o bobl ag anableddau neu iechyd gwael yng Nghymru nag yn Lloegr

Mae’r canran o bobl sydd ag anabledd neu iechyd gwael yn uwch yng Nghymru na bron i bob rhan o Loegr, yn ôl ystadegau gan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS).
Yn ôl ffigyrau o’r cyfrifiad diwethaf, mae 6.8% o boblogaeth Cymru yn wael neu yn wael iawn eu hiechyd, o gymharu â 5.3% yn Lloegr. O’r wyth rhanbarth yn Lloegr sydd yn cael eu rhestru, dim ond ardal Gogledd Ddwyrain Lloegr (6.9%) sydd â chyfran uwch.
Mae’r ffigyrau yn dangos bod 10% o boblogaeth Cymru yn anabl ac wedi eu cyfyngu’n sylweddol o ran eu gweithgareddau dyddiol. Mae hyn yn uwch na ffigwr cyfartaledd Lloegr (7.5%) yn ogystal â phob un o wyth ardal Loegr, gyda Gogledd Ddwyrain Lloegr â’r gyfradd uchaf (9.8%).
Yn ogystal, mae’r ffigyrau ONS yn rhestru pum ardal awdurdod lleol yn ne Cymru ymysg y 10 uchaf o blith awdurdodau Cymru a Lloegr sydd â’r angen dwysaf o’r rhan iechyd cyffredinol, anabledd a’r angen i ddarparu gofal di-dâl i eraill.
Y pum ardal yw: Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.
Mae’r astudiaeth hefyd yn awgrymu mai rhanbarthau ble mae diwydiannau trwm, fel mwyngloddio, chwareli neu weithgynhyrchu, yw’r ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o anabledd ac iechyd gwael.
Mae’r ffigyrau yn dangos gostyngiad o 2011 yn y canran o Gymry sydd ag anabledd neu iechyd gwael o gymharu â 10 mlynedd yn ôl, gyda chanran o’r rheini ag anabledd i lawr i 10% o 12.3%, tra bod y gyfran o bobl sy’n wael neu’n wael iawn eu hiechyd i lawr o 7.9% i 6.8%.
Niweidio iechyd
Mewn ymateb, dywedodd Rusell George AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae’r math yma o ffigyrau yn dangos pa mor wael mae’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn rheoli’r GIG o gymharu gydag ardaloedd eraill yn y DU.
“Mae amseroedd ymateb ein gwasanaeth ambiwlans yn arafach, ac mae ein rhestrau aros am driniaeth yn hirach nag yn Lloegr, ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd ein poblogaeth.
“Mae hyn yn niweidio iechyd pobl yng Nghymru ond hefyd yn eu hatal rhag gweithio, sydd yn cyfrannu at y problemau economaidd rydyn ni’n wynebu ar hyn o bryd.
“Mae’n hanfodol fod y Llywodraeth Lafur yn rhoi mesurau ar waith, fel ein Cynllun Mynediad GP, Pecyn Dechnoleg GIG a chanolfannau llawdriniaethol, er mwyn atal hyn rhag gwaethygu.”
"Problemau dwys iawn, iawn"
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru: “Mae’r ffigyrau yma eto’n cadarnhau ein statws fel cenedl gyda phroblemau iechyd dwys iawn, iawn.
"Mae rhai o’r problemau hynny’n deillio o waddol y dirywiad ôl ddiwydiannol dros flynyddoedd lawer, ond mae’n arwydd hefyd o fethiant un Gweinidog Iechyd Llafur ar ôl y llall i fynd i’r afael a difrifoldeb y sefyllfa yn effeithiol.
"Rhaid buddsoddi yn yr ataliol – creu cenedl iachach, yn hytrach na dim ond ymateb i’r broblem o lefelau uchel o afiechyd.
"Ond mae’n golygu gweithio ar draws holl adrannau’r llywodraeth, nid dim ond iechyd, ond yr holl elfennau hynny sy’n arwain at iechyd gwael – o daclo tlodi i ddarparu gwell tai.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r rhesymau dros gyfraddau gwahanol yn iechyd y boblogaeth yn gymhleth. Gellir cysylltu canlyniadau iechyd â nifer o ffactorau, megis y math o ddiwydiannau oedd yn gyffredin yn hanesyddol mewn ardal neu ranbarth, neu oedran cyfartalog y boblogaeth.
“Rydym yn falch fod canran y bobl a ddywedodd eu bod mewn iechyd gwael neu wael iawn yng Nghymru wedi gostwng rhwng 2011 a 2021, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno polisïau i ostwng y cyfraddau hynny ymhellach fyth, megis ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Cymru Iachach’.”