Carcharu dau ddyn ar ôl darganfod ffatri ganabis fawr yng nghanol Bangor

Mae dau ddyn wedi'u carcharu am droseddau cyffuriau wedi i heddlu ddarganfod ffatri ganabis fawr yng nghanol Bangor.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gynnal cyrch mewn adeilad ar Stryd Fawr Bangor ar ddiwedd mis Ionawr.
Cafwyd hyd i ffatri ganabis ar "raddfa ddiwydiannol" ar bedwar llawr o'r adeilad gwag.
Bellach mae Elidon Hodaj, 27, a Landi Ruci, 32, wedi'u carcharu am gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B.
Wrth ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Hodaj ei garcharu am ddwy flynedd a dau fis tra cafodd Ruci ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar.
Fe fydd y ddau ohonynt yn cael eu halltudio o'r DU ar ôl cael eu rhyddhau.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Richard Griffith o Heddlu Gogledd Cymru: "Byddwn yn parhau i dargedu unigolion sydd yn ceisio cludo cyffuriau i gymunedau yng Ngwynedd.
"Hoffwn roi sicrwydd i bawb sydd yn byw ym Mangor ein bod yn gwrando ac yn ymateb i unrhyw wybodaeth neu bryderon am ffatrïoedd canabis yn yr ardal."