Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Y Senedd i gynnal diwrnod menywod

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff diwrnod menywod ei gynnal yn y Senedd.
Am un diwrnod ym mis Hydref, bydd yn ddiwrnod menywod yn y Senedd, gyda’r nod o ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes gwleidyddiaeth.
Bydd 'Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd' yn ddigwyddiad o bwys a drefnwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Elect Her, medd Llywodraeth Cymru.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Senedd ddydd Sadwrn 21 Hydref 2023, a’r nod yw "dwyn menywod Cymru at ei gilydd i gysylltu, ysgogi a hyrwyddo eu rôl yn nemocratiaeth Cymru."
Mi fydd sesiynau, gweithdai a chyfarfodydd gydag aelodau benywaidd o’r Senedd ar y diwrnod.
'Grymuso ac ysbrydoli'
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS yn falch o gyhoeddi cefnogaeth y Senedd i’r digwyddiad.
"Dyma gefnogi nod 'Lle i Ni' i’r eithaf, er mwyn grymuso ac ysbrydoli amrywiaeth ehangach o fenywod i roi cynnig ar fyd gwleidyddiaeth," meddai.
"Mae gan y Senedd hanes cryf o gynrychiolaeth gan fenywod, ond rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog y genhedlaeth nesaf. Bydd y digwyddiad neilltuol yma’r hydref hwn yn cynnig cyfleoedd i fenywod ddod o hyd i’w llais a mynnu eu lle wrth galon gwleidyddiaeth Cymru.”
Ychwanegodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae ein cynllun, Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn nodi ein huchelgais i gyflawni cydraddoldeb ac mae'n cynnwys ymrwymiadau sy'n ymwneud â gwella cynrychiolaeth mewn rolau arweiniol.
“Mae’r digwyddiadau yn enghraifft berffaith o’r modd y gall menywod o bob cefndir gwahanol gydweithio i gyflawni’r newid sydd angen i ni ei weld.”