Newyddion S4C

Llwyfan Eurovision

Tocynnau i ffeinal Eurovision 2023 wedi eu gwerthu i gyd mewn hanner awr

NS4C 07/03/2023

Mae tocynnau ar gyfer ffeinal Eurovision yn Lerpwl wedi eu gwerthu i gyd mewn ychydig dros hanner awr. 

Fe gafwyd nifer drafferthion technegol ar wefan Ticketmaster wrth i bobl geisio cael gafael ar docynnau i'r naw sioe fyw. 

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Arena Lerpwl, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 13 Mai. 

Cafodd y ddinas ei dewis i gynnal y sioe ar ran Wcráin, a enillodd Eurovision 2022, yn dilyn ymosodiad Rwsia.

Mae pris tocynnau ar gyfer y rownd gyn-derfynol yn amrywio rhwng £30 a £290, gyda'r gost yn cynyddu i rhwng £80 a £380 ar gyfer y ffeinal fawr. 

Daw hyn wedi i'r gystadleuaeth gyhoeddi y bydd pobl sydd wedi ffoi o Wcráin yn gallu ymgeisio am docynnau rhatach. 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bwriad i roi 3,000 o docynnau i'r bobl a wnaeth ffoi o'u gwlad, gyda'r tocynnau hyn ar werth am £20. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.